Cyfleoedd yn ystod y dydd i oedolion sydd ag anableddau dysgu
Mae Gwasanaethau Dydd yn darparu ystod eang o weithgareddau yn ystod y dydd ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili sy'n cynnwys:
- Darparu cyfleoedd i sefydlu a chynnal cyfeillgarwch, cymdeithasu a chael mynediad at weithgareddau a gwasanaethau cymunedol.
- Gwasanaethau yn y gymuned yw’r rhain sy'n annog mwy o annibyniaeth ac yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau, galluoedd a gwybodaeth i gymryd mwy o reolaeth dros fywyd bob dydd.
- Galluogi pobl i gael mynediad at brofiadau cymunedol ystyrlon ac amgylcheddau diogel sydd â chymorth priodol a fydd yn diwallu eu hanghenion iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â darparu gofal seibiant i deuluoedd a gofalwyr.
Mae Gwasanaethau Dydd wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn drwy sicrhau bod yr unigolion y maent yn eu cefnogi yn ganolog i bopeth y maent yn ei wneud drwy:
- Cydnabod bod gan bob unigolyn ei hunaniaeth, ei anghenion, ei ddymuniadau, ei ddewisiadau, ei gredoau a'i werthoedd ei hun.
- Cydnabod gwerth profiadau bywyd drwy ddeall pwysigrwydd gorffennol pob unigolyn, ei brofiad presennol a'i obeithion ar gyfer y dyfodol.
- Deall beth sy'n bwysig i bob unigolyn.
- Cynyddu lles, hunaniaeth ac ymdeimlad o berthyn pob unigolyn.
- Deall a dangos y gallu i gysylltu ag unigolion drwy adnabod ac ymateb i'w teimladau a'u hemosiynau.
- Cynnwys unigolion a'u gofalwyr ym mhob agwedd ar eu gwasanaeth sy'n cynnwys cynllunio, datblygu a'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu.
Canolfannau adnoddau
Lleolir y Canolfannau Adnoddau Cymunedol ar draws y fwrdeistref:
Brooklands (Rhisga)
Ystrad Mynach
Gwerin (Rhymni)
Markham
Maes-y-ffynnon (Pontllan-fraith)
Cynigir ystod eang o weithgareddau yn seiliedig ar ddiddordebau personol ac anghenion asesedig yr unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth.
Mae'r gwasanaethau â chyfleusterau llawn o ran cawodydd ac offer arbenigol er mwyn sicrhau bod gofynion cymorth gofal personol yn cael eu bodloni mewn amgylchedd diogel a phreifat.
Mae gwasanaethau'n mynd ati i ddatblygu a chynnal cysylltiadau cymunedol a rhwydweithiau sy'n helpu ymhellach i gynnig cyfleoedd newydd a gwahanol.
Mae’r Tîm Cymorth Cymunedol yn cefnogi unigolion ar draws Caerffili ar sail sesiynol o fewn eu cymunedau lleol. Mae gweithgareddau'n seiliedig ar ganlyniadau personol dymunol unigolyn, sy'n cynnwys cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant teithio, hyfforddiant galwedigaethol a sgiliau byw'n annibynnol. Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnig cyfle i unigolion wirfoddoli gyda grwpiau cymunedol e.e. Sustrans.
Windy Ridge Mae’r safle wedi'i leoli ym Mhontllan-fraith ac yn cynnig cyfle i unigolion gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau garddwriaethol a gofalu am yr amgylchedd. Mae'r unigolion sy'n mynd i Windy Ridge yn helpu wrth gymryd rhan mewn sioeau garddwriaeth a chynhyrchu eitemau ar gyfer digwyddiadau â thema yn ystod y flwyddyn e.e. pwmpenni wedi'u haddurno ar gyfer Calan Gaeaf a thorchau’r Nadolig.
The Links Mae hyn yn wasanaeth sydd wedi'i leoli yn Wyllie ac mae'n darparu gwasanaeth yn y gymuned ar gyfer pobl sydd ag awtistiaeth ac ymddygiad a all herio eraill. Hyfforddir aelodau'r staff mewn Rheoli Ymddygiad Cadarnhaol i ddiwallu anghenion cymorth penodol unigolion sydd â rhagnodyn gofal.
Mae sawl gwasanaeth wedi’u cyd-leoli ar Barc Busnes Maes-y-coed:
- Mae ‘Pont Woodcraft’ yn weithdy llawn offer sydd yn darparu cyfleoedd yn ystod y dydd i unigolion sydd â diddordeb mewn gwaith coed.
- Mae ‘Sirhowy Craft’ yn cynnig cyfleoedd i unigolion gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau crefft a seramig.
- Mae ‘BlackBerry Catering’ yn cefnogi unigolion mewn cegin sydd â chyfleusterau llawn. Mae'n ofynnol bod y bobl sy'n defnyddio gwasanaeth ‘BlackBerry Catering’ yn derbyn tystysgrif hylendid bwyd sylfaenol er mwyn sicrhau bod gofynion deddfwriaethol hylendid bwyd yn cael eu bodloni. Os gofynnir iddo wneud hynny, mae'r Tîm Cymorth Cymunedol yn cefnogi unigolion i ddilyn tystysgrif hylendid bwyd sylfaenol. Mae ‘BlackBerry Catering’ yn darparu gwasanaeth bwffe ac mae'n cynnig amrywiaeth o gacennau (gan gynnwys ar gyfer dathliadau / ar themâu) y gellir eu gwneud ar archeb.
Mae'r bobl sy'n mynychu'r gwasanaethau uchod yn cymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar ddatblygu a chynhyrchu eitemau ac yn gwerthfawrogi’n arbennig eu bod yn cymryd rhan yn y gwaith o hyrwyddo a gwerthu eitemau.
Mae'r gwasanaethau dydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Trefniadau amser cinio:
Gall unigolion ddewis dod â'u pecynnau cinio eu hunain, prynu bwyd o'r gymuned leol neu gael eu cynorthwyo i ddefnyddio cyfleusterau’r gegin i baratoi eu pryd bwyd amser cinio.
Mae prydau wedi'u coginio ar gael amser cinio yn Ystrad Mynach a Chanolfan Adnoddau Cymunedol Brooklands sy'n cynnwys darparu prydau ar gyfer unigolion sydd â gofynion dietegol penodol.
Y Gwasanaeth Gwirfoddoli
Mae'r Gwasanaeth Gwirfoddoli yn darparu cyfleoedd i bobl ag anabledd dysgu i gymryd rhan weithredol yn eu cymuned, fel arfer drwy weithgareddau hamdden neu dreulio amser gyda'i gilydd gartref. Caiff gwirfoddolwyr eu paru ag unigolyn/pobl sydd â diddordebau tebyg ac maent yn cyfarfod yn rheolaidd lle gwneir cyfeillgarwch.
Pwy sy'n gallu derbyn gwasanaeth?
Mae person yn gymwys i dderbyn gwasanaeth oddi wrth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol os ydynt yn bodloni'r meini prawf canlynol:
- Cynhaliwyd asesiad o angen gan Dîm Anableddau Dysgu Bwrdeistref Sirol Caerffili.
- Mae'r person yn byw o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili.
- Mae'r person yn byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ac mae ganddynt asesiad o angen oddi wrth ei hawdurdod lleol sy'n sefydlu ei hawl i wasanaethau.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd yn ystod y dydd, cysylltwch â’r Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.
Polisi Cludiant Cynorthwyol y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion
Mae Gwasanaeth Cludiant Cynorthwyol y Gwasanaethau Cymdeithasol i oedolion yn wasanaeth cludiant i bobl dros 18 oed, er mwyn iddynt gael gwell mynediad at 'weithgareddau cymunedol' ym mwrdeistref Caerffili. Mae gweithgaredd cymunedol yn wasanaeth gofal a chymorth y mae unigolyn yn mynychu oddi cartref, a ddarperir gan Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion fel rhan o gynllun gofal a chymorth.
Polisi Cludiant Cynorthwyol
Polisi Cludiant Cynorthwyol hawdd ei ddarllen