Newyddion Caerffili - Rhifyn 19, Gorffennaf 2023

Penawdau

Mae gennym ni gymaint o bethau i'w rhannu gyda chi y tro hwn! Llawer o straeon cadarnhaol ac efallai’r nifer fwyaf o weithgareddau a digwyddiadau rydyn ni erioed wedi’u cynnal! Darllenwch ymlaen i gael gwybod rhagor…

Gweithgareddau blaenorol

Roedden ni’n meddwl yr hoffech chi weld rhai o’r pethau hyfryd rydyn ni wedi gallu eu trefnu dros y misoedd diwethaf.  I enwi dim ond rhai, rydyn ni wedi trefnu nosweithiau comedi, danfon bocsys o gacennau, diwrnodau sba, dringo creigiau, taith bragdy, nofio i’r teulu a, hyd yn oed, noson yn Flight Club yng Nghaerdydd!

Mae rhestr o weithgareddau sydd ar y gweill yn y rhifyn hwn o'r cylchlythyr; fodd bynnag, rydyn ni'n trefnu rhagor o bethau wrth iddyn nhw ddod i fyny, felly, dyma erfyn unwaith eto i chi gofrestru drwy e-bost neu ymuno â'n grwpiau Facebook ni. (E-bostiwch ni ar Gofalwyr@caerffili.gov.uk neu gofrestru drwy chwilio am “Caerphilly County Carers Group” neu “Caerphilly County Young Carers Group".) Wrth gwrs, rydyn ni’n deall nad yw pob un ohonoch chi ar-lein ac, felly, mae croeso i chi ein ffonio ni unrhyw bryd i weld a oes gennym ni ragor o bethau wedi'u trefnu.

Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc

Eleni, canolbwyntiodd y tîm ar ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ar gyfer yr holl bethau gwych y mae gofalwyr ifanc yn eu gwneud.  Hefyd, fe wnaethom ni gynnal cystadleuaeth poster gyda’r thema “gwneud amser i ofalwyr ifanc”.  Cawsom ni lawer o geisiadau anhygoel, ond roedd yn rhaid i ni ddewis enillydd, felly, fe wnaeth ein Tîm Teuluoedd yn Gyntaf ynghyd â Phennaeth y Gwasanaethau i Blant feirniadu’r posteri, a’r enillydd oedd Mali Hughes.

Grwpiau i Ofalwyr

Dyma'ch cyfle chi i siarad â ni ac eraill sydd â phrofiad o ofalu. Er bod pob grŵp yn cyfarfod am awr a hanner, mae croeso i chi alw heibio am gyhyd ag y dymunwch chi ac aros yno am gyhyd ag y dymunwch chi wedyn! Mae rhagor o fanylion ar ein grŵp Facebook ni, neu cysylltwch â ni.

Grŵp Bargod

Murray’s (Y Stryd Fawr Uchaf, Bargod) ar ddydd Llun cyntaf y mis rhwng 11:00am a 12.30pm

Grŵp Coed Duon

McKenzie’s Cafe ar ddydd Mawrth olaf y mis rhwng 10.30am a 12 canol dydd

Grŵp Caerffili

Yr Hen Lyfrgell, Caerffili, ar drydydd dydd Gwener y mis o 2:00pm tan 3.30pm

Grŵp Rhisga

The Coffee Mill, Rhisga, ar ail ddydd Iau y mis o 12 canol dydd tan 1.30pm

Cardiau Adnabod Gofalwyr Ifanc

Rydyn ni'n dal i allu darparu cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc, sydd wedi’i gynllunio i helpu pobl ifanc sydd â rôl ofalu mewn lleoliadau addysg ac iechyd.  I wneud cais am un, anfonwch e-bost atom ni ar Gofalwyr@caerffili.gov.uk am ffurflen gais. 

Gweithgareddau i Ofalwyr, Hydref - Rhagfyr 2023

Cysylltwch â ni i ofyn am leoedd ar unrhyw un neu ragor o'r gweithgareddau isod a byddwn ni'n rhoi eich enw i mewn ar gyfer raffl.  Wedyn, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi dim ond os ydych chi wedi bod yn llwyddiannus. 

  • Dydd Mawrth 10 Hydref o 6pm – Dosbarthu pizza o Domino’s
  • Wythnos yn dechrau 18 Hydref – Dosbarthu pecyn crefft i oedolion sy’n gofalu - stampiwch eich bag cario eich hun
  • Dydd Llun 30 Hydref tan 5 Tachwedd – Wythnos sinema yn Sinema Maxime, Coed Duon
  • Dydd Llun 30 Hydref 1.30pm - 3.30pm – Sesiwn Crefftau Crai i ofalwyr ifanc yng Nghanolfan Gymunedol Cefn Hengoed.  Dewch draw i wneud llyfrnodau, blodau a breision.
  • Dydd Mawrth 31 Hydref o 10.30am – Casglu blychau te prynhawn Calan Gaeaf i ofalwyr ifanc
  • Dydd Sadwrn 4 Tachwedd am 7.30pm – "Rock for Heroes" yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon
  • Dydd Iau 16 Tachwedd 10.30am - 3:00pm – Diwrnod maldodi yn dathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr gyda bwffe yng Nghanolfan Ddawns Shappelles, Ystrad Mynach.  Bydd myfyrwyr o Goleg y Cymoedd yn bresennol i gynnig torri gwallt, cyrlio gwallt, sychu gwallt, plethu a choluro.
  • Dydd Sadwrn 18 Tachwedd 7:00pm - 8:30pm – Taith ysbrydion i ddeg gofalwr ym Maenordy Llancaiach Fawr
  • Dydd Iau 23 Tachwedd o 6:00pm – Dawns Nadolig yn Bryn Meadows Golf, Hotel & Spa
  • Dydd Iau 30 Tachwedd rhwng 8.30am a 6.30pm (yn gadael Caerwrangon am 5:00pm) – taith siopa Nadolig i Gaerwrangon
  • Dydd Mawrth 5 Rhagfyr 11:00am - 2:00pm – Gweithdy gwneud torchau yn Studio 54, Coed Duon
  • Dydd Iau 7 Rhagfyr 3:00pm - 5:00pm – Te prynhawn yn The Coffee Mill, Rhisga
  • Dydd Sadwrn 9 Rhagfyr 12 canol dydd - 2:00pm – parti trampolîn Nadolig i ofalwyr ifanc yn Jump, Casnewydd
  • Dydd Sadwrn 16 Rhagfyr o 2:30pm – Panto yn Theatr Fach Coed Duon – "Marmaduke the Useless Pirate"
  • Dydd Sul 17 Rhagfyr o 10:30am – casglu blychau te prynhawn Nadolig o Hancox’s Pies, Bargod

Mae'r holl weithgareddau hyn am ddim i chi i ddweud diolch i chi am fod yn ofalwyr di-dâl gwych.  Cofrestrwch i gael diweddariadau e-bost ac ymuno â'n grŵp Facebook ni i gael gwybod am y gweithgareddau a digwyddiadau sy'n cael eu hychwanegu drwy'r amser.  Rydyn ni'n ychwanegu ein gweithgareddau ni ar Facebook tua mis cyn iddyn nhw ddigwydd.

Aelodaeth Hamdden

Mae unrhyw ofalwyr ifanc hyd at 16 oed yn gallu cael aelodaeth Plant Actif am ddim.  I wneud hyn, y cyfan fydd angen i chi ei wneud yw rhoi gwybod i ni beth yw enw, cyfeiriad a rhif Cerdyn Smart y gofalwr a byddwn ni'n trefnu i aelodaeth blwyddyn gael ei gymhwyso am flwyddyn. 

Mae aelodaeth Plant Actif yn rhoi'r hawl i ofalwyr ifanc nofio, defnyddio'r gampfa a mynd i rai dosbarthiadau i blant am ddim. Yn anffodus, mae'n rhaid i chi fod yn 11 oed neu'n hŷn i ddefnyddio'r gampfa.

Mae gofalwyr ifanc 17 oed a hŷn yn gallu cael mynediad at yr un opsiynau â gofalwyr sy’n oedolion, gan ddefnyddio’r Cynllun Grantiau Bach i Ofalwyr i ariannu’r gost os ydyn nhw eisiau.

Cynllun Grantiau Bach i Ofalwyr

Mae’r Cynllun Grantiau Bach i Ofalwyr yn dal i redeg, ac mae gennym ni arian ar ôl yn y cynllun, sydd bellach wedi bod o fudd i dros 300 o ofalwyr (a’u teuluoedd) yng Nghaerffili ers iddo ddechrau yn 2017.  Gallwch chi lenwi’r ffurflen ar-lein yn www.thecarecollective.wales (cliciwch ar y ddolen ar gyfer grantiau) neu, os oes angen ffurflen gais a chanllawiau arnoch chi, anfonwch e-bost atom ni ar Gofalwyr@caerffili.gov.uk neu ffonio ni ar y rhifau isod.  (Sylwer, mae’r ffurflen gais a’r canllawiau'n cael eu diweddaru’n aml, felly, efallai y bydd gennych chi fersiwn sydd wedi dyddio.)

Asesiadau Gofalwyr

Mae asesiad gofalwr yn gyfle i chi i ddweud wrthym ni am eich sefyllfa chi. Gallwch ddweud wrthym am yr hyn rydych yn ei wneud, sut mae gofalu'n effeithio arnoch, a pha help yr hoffech ei gael.

Weithiau, mae gofalwyr yn poeni am siarad â ni oherwydd teyrngarwch, euogrwydd, ofn peidio ag ymdopi, neu falchder. Peidiwch â gadael i'r teimladau hyn eich atal chi rhag cysylltu â ni. Drwy roi gwybod i ni am eich sefyllfa, gallwn sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth a chyngor a allai fod o gymorth i chi.

Gall asesiad gofalwr:

  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth a allai eich helpu chi gyda'ch rôl ofalu.
  • Cynnig cymorth emosiynol i'r gofalwr.
  • Dechrau sgwrs “beth sy'n bwysig?”
  • Darparu gwybodaeth am ba gymorth ymarferol sydd, efallai, ar gael i ofalwyr.
  • Siarad am gryfderau’r gofalwr a’i helpu i ddod o hyd i’w atebion ei hunan i broblemau a sefyllfaoedd.
  • Agor drws i rwydwaith o ofalwyr eraill, gan ddarparu rhagor o gefnogaeth a chyngor.
  • Cynnig grwpiau cymorth a chyfleoedd cymdeithasol.
  • Helpu gyda cheisiadau ar gyfer y Cynllun Grantiau Bach i Ofalwyr am bethau fel eitemau cartref, gwersi gyrru, cyrsiau i alluogi'r gofalwr i barhau â'i rôl ofalu, seibiant.
  • Trafod unrhyw anghenion hyfforddi a fyddai'n cynorthwyo gyda'r rôl ofalu a cheisio cael mynediad at yr hyfforddiant hwn.
  • Cynnig seibiannau untro neu seibiannau tymor byr iawn rhag gofalu.
  • Darparu gwybodaeth am sefydliadau gofal os yw'r person eisiau talu am gymorth yn breifat.
  • Darparu Cerdyn Argyfwng Gofalwr fel bod pobl eraill yn cael gwybod bod y gofalwr yn ofalwr pe bai yn cael damwain neu mewn argyfwng.
  • Cyfeirio at sefydliadau neu dimau eraill a allai fod o gymorth.

Nid yw asesiad gofalwr yn gallu:

  • Cael ei ddefnyddio yn lle asesiad o anghenion y person sy'n cael y gofal.
  • Darparu “seibiant” parhaus.
  • Cyflwyno pecyn gofal parhaus (drwy gyllid gan y Gwasanaethau Cymdeithasol)

Gallwch ofyn am asesiad gofalwr trwy ffonio'r Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar 0808 100 2500 neu drwy e-bostio GCChOedolion@caerffili.gov.uk

Os ydych chi wedi cael asesiad o’r blaen a hoffech chi iddo gael ei adolygu (efallai bod eich rôl gofalu chi wedi newid) rhowch wybod i ni.

Tîm Gofalwyr Caerffili

Rhag ofn eich bod yn newydd i ni, y tîm yw:

Mae llawer o ffyrdd i chi gysylltu â ni. Cysylltwch â ni drwy e-bostio Gofalwyr@caerffili.gov.uk, neu ar Facebook, ar Twitter (@CarerCaerphilly), neu drwy www.caerffili.gov.uk/gofalwyr.       

Adnoddau

  • Cerdyn Argyfwng Gofalwr – Os hoffech chi gael un, cysylltwch â ni drwy Gofalwyr@caerffili.gov.uk  neu 01495 233218
  • Seibiant o ofalu – Efallai y gallwn ni eich helpu chi i gael seibiannau tymor byr neu untro o'ch rôl ofalu.  Cysylltwch â ni ar Gofalwyr@caerffili.gov.uk i gael gwybod rhagor.
  • Mae gennym ni rai cardiau “Max Card” ar gael am ddim i'r rhai sydd â phlant o dan 25 oed. Mae'n cynnig gostyngiadau ar ddiwrnodau allan a gweithgareddau.  Mae rhagor o fanylion ar gael yma: www.mymaxcard.co.uk. Cysylltwch â ni os hoffech chi gael un.

Newyddion Gofalwyr Ifanc

Mae gennym ni DAIR stori hyfryd i rannu gyda chi y tro hwn.

Yn gyntaf, mae Dewi Miles yn ofalwr ifanc sydd wedi cael ei gynorthwyo drwy ein grwpiau cymorth cyfoedion ac wedi cymryd rhan yn ein gweithgareddau a digwyddiadau ni.  Rydyn ni bob amser yn annog gofalwyr ifanc i awgrymu digwyddiadau, hyfforddiant neu gymorth ac rydyn ni'n agored i syniadau newydd y byddwn ni'n ceisio eu hystyried.

Awgrymodd Dewi y byddai rhoi cyfle i ofalwyr ifanc ddysgu cymorth cyntaf, gan ei fod yn teimlo y byddai hyn yn fantais fawr yn eu rolau gofalu.

Roedd Ambiwlans Sant Ioan Cymru yn hapus i hyfforddi 15 o ofalwyr ifanc, a llwyddon nhw i gyd.  Bellach, maen nhw'n swyddogion cymorth cyntaf cymwysedig am y tair blynedd nesaf.  Cafodd pob gofalwr ifanc dystysgrif a phecyn cymorth cyntaf. 

Llongyfarchiadau a da iawn i bawb a gymerodd ran.  Cadwch lygad am ragor o ddigwyddiadau hyfforddiant cymorth cyntaf a fydd yn cael eu cynnal.

Yn ail, llongyfarchiadau i'r gofalwr ifanc Joshua Read, 7 oed, a gwblhaodd ras 2 Gilomedr Caerffili. Mae gan chwaer Josh, Sienna, awtistiaeth a phenderfynodd Josh godi arian i grŵp anghenion dysgu ychwanegol Sparrows yng Nghaerffili.

Ar y bore, gyda thua 800 o bobl yn cymryd rhan, roedd Josh yn gyffrous iawn ac ychydig yn nerfus, gan ei fod yn un o'r rhedwyr ieuengaf.  Dymunodd y Maer Mike Adams lwc iddo cyn dechrau'r ras.

Fe wnaeth Josh redeg y ras yn llwyddiannus a mwynhau pob eiliad. Cafodd ei fedal ei chyflwyno iddo ac fe wnaeth ei gwisgo gyda balchder.  Hefyd, cododd Josh £550 i helpu'r grŵp Sparrows i ariannu teithiau a gweithgareddau ar gyfer plant gydag anghenion dysgu ychwanegol a'u teuluoedd.

Da iawn, Josh – rydyn ni i gyd yn falch iawn ohonot ti!

Yn olaf ond nid yn lleiaf, llwyddodd un o’n gofalwyr ifanc i basio ei phrawf gyrru ar ôl cael cymorth i wneud cais am arian o’r Cynllun Grantiau Bach i Ofalwyr gan Hayley o’r Tîm Gofalwyr.  Dywedodd Diôn, “Rwy’n gwerthfawrogi’r cymorth a’r gefnogaeth yn fawr iawn. Rydych chi wedi fy helpu i fwrw ymlaen â fy mywyd ac wedi ei gwneud hi’n haws, a byddaf i bob amser yn ei werthfawrogi.”

Prosiect Ymestyn yn Ehangach, Dysgu Eich Ffordd i Ofalwyr Ifanc

Mae Ysgol Gyfun Heolddu yn cymryd rhan ym mhrosiect Ymestyn yn Ehangach, Dysgu Eich Ffordd a gafodd ei sefydlu gan Ben Anderson, sy'n helpu ac yn annog gofalwyr ifanc i gael mynediad at addysg prifysgol.

Cafodd gofalwyr ifanc, ynghyd â Helen o’r Tîm Gofalwyr, eu gwahodd i Brifysgol Caerdydd am y diwrnod i gael gwybod am fywyd prifysgol.  Cawson nhw eu tywys ar daith o amgylch campws Tal-y-bont gan ddau lysgennad gofalwyr ifanc i edrych ar y gwahanol fathau o lety a chyfleusterau byw.  Nesaf, ymwelon nhw ag undeb y myfyrwyr ac edrych ar y mannau dysgu, ardaloedd astudio, ynghyd â'r cyfleusterau hamdden a chwaraeon.  Ar ôl y daith, cafodd y llwybr addysgol i addysg uwch ei ddangos iddyn nhw a chawson nhw eu hannog i edrych ar y ffyrdd gorau o astudio.

Siaradodd y llysgenhadon am eu profiadau personol o gael mynediad at addysg brifysgol a sut roedden nhw'n delio â'u rolau gofalu.

Ar ôl cinio, cawson nhw wybodaeth am eu lles ac, yn bwysicach fyth, cyllid i fyfyrwyr lle cawson nhw wybodaeth am fenthyciadau dysgu, benthyciadau cynhaliaeth, grantiau, a bwrsarïau incwm isel a gofalwyr ifanc.

Nododd yr ymweliad fod addysg uwch a phrifysgol agored i bob disgybl gyda chefnogaeth a chymorth, gyda phob gofalwr ifanc yn teimlo bod y brifysgol yn opsiwn sy'n agored iddyn nhw a bod y cyfleoedd a'r profiadau yn dod yn ddiddiwedd.

Ac yn olaf…

Byddwn ni'n anfon ein cylchlythyr nesaf atoch chi drwy'r post neu drwy e-bost nes ymlaen yn 2023 neu'n gynnar yn 2024 gyda rhagor o newyddion, gweithgareddau a gwybodaeth ddefnyddiol i chi. Os ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n hoffi cael copi o'n cylchlythyrau, rhowch wybod i ni. 

Hefyd, os nad ydych chi'n ofalwr bellach ac eisiau cael eich tynnu oddi ar restr bostio'r cylchlythyr, rhowch wybod i ni a gallwn dynnu'ch manylion oddi ar y rhestr.

Cysylltwch â ni