Anghenion Dysgu Ychwanegol Canllaw i blant

Cymorth i blant a phobl ifanc

*Mae Cod Ymarfer Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd ar waith o 2021.

Beth yw Anghenion Dysgu Ychwanegol?

  • Os oes angen rhywfaint o help ychwanegol arnoch chi yn yr ysgol, efallai y byddwn ni'n dweud bod gennych chi Anghenion Dysgu Ychwanegol neu ADY yn fyr.
  • Bydd gwybodaeth yn cael ei chasglu gennych chi, eich teulu, eich athro a phobl eraill sy'n eich helpu chi i benderfynu a oes gennych chi ADY.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

  • Os oes gennych chi ADY, bydd gennych chi gynllun. Bydd hyn yn cael ei alw'n Gynllun Datblygu Unigol neu CDU yn fyr.
  • Bydd y cynllun hwn yn dweud beth sydd angen i chi ei ddysgu a datblygu'ch cryfderau a beth fydd yn cael ei wneud fel eich bod chi'n cael yr help cywir.
  • Bydd eich ysgol neu goleg yn ysgrifennu'r cynllun neu weithiau bydd angen i Awdurdod Lleol Caerffili ysgrifennu'r cynllun.
  • Rhaid i'r hyn rydych chi'n ei feddwl, ei deimlo a'i eisiau fod yn rhan o'r cynllun hwn. Bydd barn eich teulu ac unrhyw un arall sy'n eich helpu chi hefyd yn rhan o'r cynllun hwn.
  • Byddwch chi'n cael copi o'ch cynllun.

Ac wedyn… 

  • Rhaid i Awdurdod Lleol Caerffili, eich ysgol neu goleg barhau i wirio bod eich cynllun yn gweithio i chi. Bydd hyn yn digwydd bob 12 mis neu os bydd rhywbeth yn newid.
  • Os byddwch chi'n symud, bydd eich cynllun yn symud gyda chi.
  • Weithiau, mae'n well i blentyn sydd ag ADY fynd i ysgol wahanol, ond dim ond pan fydd pawb yn meddwl mai dyma fyddai orau.
  • Bydd pawb yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau eu bod nhw i gyd yn cytuno. 

Beth fydd yn digwydd os nad yw pobl yn cytuno?

  • Bydd Awdurdod Lleol Caerffili yn gweithio i osgoi anghytuno drwy eich helpu chi a'ch teulu i gymryd rhan a deall penderfyniadau sy'n effeithio arnoch chi.
  • Os nad yw'n bosibl cytuno ar yr hyn sydd orau, yna mae gwasanaethau fel SNAP Cymru ar gael i'ch helpu chi a'ch teulu. Gallen nhw wrando arnoch chi, sicrhau bod eich barn chi yn cael ei chlywed, darparu gwybodaeth a datrys problemau.
  • Os nad ydych chi neu'ch teulu chi yn cytuno â phenderfyniadau ynghylch Cynllun Datblygu Unigol, rydych chi'n gallu apelio i dribiwnlys, sef grŵp arbennig o bobl sy'n gyfrifol am ddelio ag anghytundeb.

Mae Awdurdod Lleol Caerffili, ysgolion a cholegau yn gweithio'n galed i ddilyn y cod newydd* i:  

  • sicrhau cewch chi eich cadw'n ddiogel ac yn iach;
  • sicrhau eu bod nhw'n gweithio gyda gwasanaethau eraill e.e. y gwasanaethau iechyd, gyrfaoedd, cymdeithasol ac unrhyw bobl eraill sy'n gallu eich helpu chi;
  • sicrhau eich bod chi'n cael yr helpu sydd ei angen arnoch chi cyn gynted â phosibl;
  • sicrhau cewch chi eich helpu i aros yn yr ysgol neu'r coleg i gyflawni o'ch gorau;
  • sicrhau bod gennych chi opsiynau ar gyfer dysgu heblaw am yn yr ysgol neu'r coleg, os oes angen.

Cenhadaeth Awdurdod Lleol Caerffili yw sicrhau bod:

  • pob ysgol a choleg yn dod yn hyrwyddwyr lles plant a phobl ifanc;
  • pob ysgol a choleg yn gallu helpu plant a phobl ifanc sydd ag ADY i ddysgu sut i gyflawni gyflawni o'u gorau;
  • pob agwedd ar fywydau plant a phobl ifanc yn cael ei hystyried yn bwysig;
  • ein plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed yn cael eu helpu i oresgyn rhwystrau i ddysgu;
  • digon o wasanaethau Cymraeg ar gael i blant sydd ag ADY.