FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

A472 Ystrad Mynach i Nelson - Gorchymyn Gwahardd Gyrru Dros Dro 2021

HYSBYSIR drwy hyn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wrth weithredu ei bwerau o dan y Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) yn bwriadu mewn nid llai na saith diwrnod o ddyddiad yr Hysbysiad hwn i wneud Gorchymyn, a fydd â’r effaith o wahardd cerbydau rhag mynd ar hyd Yr A472 o’r gyffordd â Maesycoed Terrace a chylchfan Caerphilly Road, Nelson.

Disgwylir i’r Gorchymyn arfaethedig gychwyn ar y dyddiadau canlynol:

  • 07:00 ar 16/01/2021 tan 18:00 ar 17/01/2021
  • 07:00 ar 23/01/2021 tan 18:00 ar 24/01/2021
  • 07:00 ar 30/01/2021 tan 18:00 ar 31/01/2021
  • 07:00 ar 06/02/2021 tan 18:00 ar 07/02/2021
  • 07:00 ar 13/02/2021 tan 18:00 ar 14/02/2021

am gyfnod nid yn fwy deunaw mis neu nes bod y gwaith wedi’i gwblhau, p’un bynnag sydd gynharaf. 

Bydd llwybr arall ar gael ar hyd Heol Penallta, Church Road, B4252 Gelligaer Road, B4255, Shingrig Road, Dynevor Terrace A472.

Y rheswm dros wneud y Gorchymyn yw caniatáu gwaith cwlfert.

Mae angen y gorchymyn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan Nick Edmunds ar 01443 863482 neu edmunn@caerffili.gov.uk yn ystod oriau swyddfa. 

Dyddiedig 7 Ionawr 2021
Marcus Lloyd
Pennaeth Isadeiledd Tŷ Tredomen
Parc Tredomen Ystrad Mynach Hengoed CF82 7WF

map