Problemau’n ymwneud â rheoli traffig
Fel awdurdod priffyrdd, mae dyletswydd arnom i reoli’r rhwydwaith ffyrdd er mwyn sicrhau gymaint ag sy’n bosibl bod traffig yn symud yn ddiogel ac yn hwylus, gan gynnwys cerddwyr a phobl eraill sy’n agored i niwed ar y ffyrdd.
Mae rheoli traffig yn golygu defnyddio amrywiaeth o fesurau sy’n helpu i sicrhau bod traffig yn parhau i symud yn ddiogel. Caiff y mesurau hyn eu darparu’n unol â’n polisi ac maent yn cynnwys y canlynol:
- mesurau rheoli parcio ar strydoedd
- terfynau cyflymder
- mesurau rheoli lorïau
- signalau ac arwyddion traffig
- marciau ar y ffyrdd
- mesurau gostegu traffig
- croesfannau cerddwyr
- gwaith ffordd
Fel arall, ffoniwch dîm gofal cwsmer yr adran briffyrdd.