FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Arwyddion traffig ac arwyddion stryd

Os ydych wedi dod ar draws golau, arwydd neu signal traffig sydd wedi torri, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu trefnu ei fod yn cael ei atgyweirio.

Er enghraifft

  • Mae arwyddion traffig yn cynnwys pob arwydd sy’n rhoi gwybodaeth gyfeiriadol. Fel rheol, caiff arwyddion traffig eu gosod ar bolion neu bontydd arwyddion wrth ymyl y ffordd, neu yn y llain ganol ar ffordd ddeuol.
  • Mae goleuadau traffig yn rheoli llif cerbydau ar y ffordd. Goleuadau traffig yw’r goleuadau coch-melyn-gwyrdd cyfarwydd ar bolion neu bontydd uwchben, sydd i’w gweld gan amlaf ar gyffyrdd.
  • Mae goleuadau croesfannau cerddwyr yn cynnwys set o oleuadau traffig yn ogystal â chyfleuster sy’n dangos, drwy olau coch neu wyrdd, pryd y mae’n ddiogel i gerddwyr groesi’r ffordd wrth groesfan pelican.
  • Goleuadau Belisha yw goleuadau melyn sy’n fflachio ar ben polion â streipiau du a gwyn wrth ymyl croesfan cerddwyr.
  • Pileri bach â golau y tu mewn iddynt yw bolardiau wedi’u goleuo, ac yn aml cânt eu gosod yng nghanol y ffordd neu wrth gyffyrdd ac maent yn cynnwys saeth sy’n dangos i yrwyr pa gyfeiriad y dylent fynd iddo er mwyn pasio’r bolard.
  • Mae signalau gwybodaeth i yrwyr yn cynnwys unrhyw arwyddion eraill, dros dro neu barhaol, sy’n rhoi gwybodaeth neu gyfarwyddiadau i ddefnyddwyr ffyrdd. Maent yn cynnwys, er enghraifft, goleuadau traffig neu arwyddion ffyrdd dros dro, neu arwyddion awtomatig sy’n dweud wrth ddefnyddiwr ffordd pa mor gyflym y mae ei gerbyd yn teithio.

Fel arall, ffoniwch dîm gofal cwsmer yr adran briffyrdd.