Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy Ffioedd a Thaliadau Cyn Ymgeisio

Lefel Gwasanaeth

Maint y Safle

Ffi (£) ac eithrio TAW

Ffi (£) gan gynnwys
TAW

Disgrifiad o'r Gwasanaeth

Cyngor cyn gwneud cais cynllunio

Annedd Breswyl Sengl (ac eithrio fflatiau)

£264.00

£330.00

Bydd y swyddogaeth hon yn darparu adolygiad technegol manwl o'r ffurflen cyn gwneud cais cynllunio a gyflwynwyd a'r dogfennau ategol.
 
Mae modd gofyn am gyfarfod ar-lein 1 awr heb unrhyw gost ychwanegol.
 
Canlyniad y gwasanaeth yw adroddiad cryno o gydymffurfiad y cais â safonau Llywodraeth Cymru. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at ble mae gwybodaeth ychwanegol yn debygol o fod yn ofynnol er mwyn bodloni gofynion lluniadu a dogfennau ategol y safonau cenedlaethol.
 
Bydd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o'r cyfyngiadau hysbys ac o'r hyn y bydd ei angen i fod yn gais wedi'i wneud yn ddilys.
 
Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016
 
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017

Datblygiad bach (2-9 annedd; adeiladau diwydiannol/masnachol sydd ag arwynebedd llawr mewnol <1,000m²; Datblygiadau <1
Hectar

£528.00

£660.00

Datblygiad mawr (10 annedd neu fwy; adeiladau sydd ag arwynebedd llawr mewnol o 1,000m² neu'n fwy; pob safle 1
Hectar neu'n fwy)

£1,320.00

£1,650.00

Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol - fel y diffinnir gan y Rheoliadau1/Safleoedd sydd angen Asesiad Effaith Amgylcheddol - fel y diffinnir gan y Rheoliadau

Pris ar Gais

Pris ar Gais

Ymweliad â'r Safle

 

£154.35

£185.00

Ymweliad â'r safle i gynorthwyo cyn gwneud cais cynllunio. Mae modd gofyn am ymweliad â’r safle fel atodiad i gyngor cyn gwneud cais ac ni ellir ei ddefnyddio ar wahân i wasanaethau eraill. Bydd yr adroddiad cyn gwneud cais yn cael ei wella gan drafodaethau ac arsylwadau ar y safle.

Cyngor Technegol

 

£66.00 / awr

£79.00 /
awr

Cyngor technegol ychwanegol ar y cyd â chyngor cyn gwneud cais. Mae esiamplau'n cynnwys: cyfarfodydd dilynol, adolygiad o'r dyluniadau diwygiedig; cwestiynau technegol penodol sy'n codi o adolygiad cychwynnol.
Lefel gwasanaeth a chost wedi'u cytuno cyn dechrau gweithredu.
Isafswm o 2 awr i ganiatáu ar gyfer cefnogaeth dechnegol a gweinyddu cais.