FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Adeiladau rhestredig a chaniatâd adeilad rhestredig

Mae'r adran hon yn rhoi sylw i'r canlynol:

  • Beth yw'r graddau rhestru gwahanol?
  • Beth yw'r meini prawf ar gyfer rhestru adeiladau?
  • Sut mae gwneud cais am restru adeilad?
  • Gwarchodaeth interim
  • Sut mae rhestru adeilad?
  • Caniatâd adeilad rhestredig
  • Ydy fy eiddo'n adeilad rhestredig?
  • Sut mae gwneud cais am ganiatâd?

Mae ‘adeilad rhestredig’ yn adeilad, gwrthrych neu strwythur y barnwyd ei fod o ddiddordeb cenedlaethol, hanesyddol neu bensaernïol.

Ar hyn o bryd mae 415 o adeiladau rhestredig yn y fwrdeistref sirol. Mae rhestru adeilad yn rhoi gwarchodaeth gyfreithiol iddo, er mwyn ei gadw fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ei fwynhau.

 

Mae adeiladau'n cael eu rhestru gan Cadw i sicrhau bod eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn cael ei gydnabod yn llawn.  

Mae rhestru adeilad yn rhoi gwarchodaeth gyfreithiol iddo, er mwyn ei gadw fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ei fwynhau.

Beth yw'r graddau rhestru gwahanol?

Caiff adeiladau rhestredig eu graddio yn ôl eu pwysigrwydd cymharol:

  • Gradd I – adeiladau o ddiddordeb eithriadol
  • Gradd II* – adeiladau o bwys penodol sydd o ddiddordeb mwy nag arbennig
  • Gradd II – adeiladau o ddiddordeb arbennig sy'n cyfiawnhau pob ymdrech sy'n cael ei gwneud i'w diogelu

Ni waeth beth fo'u gradd, caiff pob adeilad rhestredig ei drin yn gyfartal yn y system gynllunio.

Beth yw'r meini prawf ar gyfer rhestru adeiladau?

Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf canlynol:

  • diddordeb pensaernïol: adeiladau sydd o ddiddordeb oherwydd eu cynllun pensaernïol, eu haddurniadau a'u crefftwaith; hefyd yn cynnwys enghreifftiau pwysig o fathau penodol o adeiladau a thechnegau adeiladu penodol, ac adeiladau sy'n arddangos ffurfiau cynllun arwyddocaol.
  • diddordeb hanesyddol: adeiladau sy'n dangos agweddau pwysig ar hanes cymdeithasol, economaidd, diwylliannol neu filwrol Cymru.
  • cysylltiadau hanesyddol agos: adeiladau sydd â chysylltiad hanesyddol agos â phobl neu ddigwyddiadau sydd o bwys i Gymru.
  • gwerth fel grŵp: adeiladau sy'n cyfrannu at undod pensaernïol neu hanesyddol pwysig, neu sy'n enghreifftiau gwych o gynllunio, megis sgwariau, terasau neu bentrefi model.
  • oedran a phrinder – Caiff pob adeilad a godwyd cyn 1700 ac sydd wedi goroesi ar ei ffurf wreiddiol, fwy neu lai, ei restru. Caiff y rhan fwyaf o adeiladau a godwyd rhwng tua 1700 a 1840 eu rhestru, er y bydd hyn yn dibynnu'n rhannol ar faint o'r ffurf a'r adeiladwaith gwreiddiol sydd wedi goroesi. Ar ôl tua 1840, dim ond adeiladau o ansawdd a chymeriad pendant a gaiff eu rhestru. Nid yw Cadw yn ystyried cyflwr adeilad na'r defnydd ohono wrth ei ystyried ar gyfer ei restru.

Sut mae gwneud cais am restru adeilad? 

Cyn cyflwyno eich cais, mae'n syniad da edrych i weld a yw'r adeilad eisoes wedi'i restru. Gallwch wneud hyn ar Cof Cymru – Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru.

Mae hefyd yn werth siarad â swyddog cadwraeth a dylunio yr awdurdod hwn cyn cysylltu â Cadw.

Dylid anfon ceisiadau am restru i cadw@llyw.cymru gan esbonio pam y dylid ychwanegu'r adeilad at y rhestr. Gellir dod o hyd i'r manylion y mae angen eu cynnwys gyda'r e-bost yng nghyhoeddiad Cadw, sef ‘Deall Rhestru yng Nghymru’ (Medi 2018), ar dudalen 19. Bydd Cadw yn asesu'r wybodaeth i weld p'un a yw'r adeilad yn bodloni'r meini prawf cenedlaethol ar gyfer rhestru. Os bydd Cadw yn argymell y dylid ei restru, bydd yn ymgynghori â'r canlynol:

  • perchennog a meddiannydd yr adeilad 
  • yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol 
  • unrhyw berson arall y credant fod ganddo wybodaeth arbennig am adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol, neu ddiddordeb arbennig ynddynt.

Bydd yn rhoi 28 diwrnod i ddychwelyd ymatebion ysgrifenedig. Os bydd yr adeilad yn rhestredig, bydd Cadw yn dweud wrth y perchennog, y meddiannydd a'r awdurdod cynllunio lleol. 

Gwarchodaeth interim

O ddechrau'r cyfnod ymgynghori, rhoddir gwarchodaeth interim i'r adeilad fel petai wedi'i restru eisoes. Bydd yn drosedd ei ddifrodi neu wneud gwaith sy'n newid ei gymeriad heb ganiatâd adeilad rhestredig. 

Bydd gwarchodaeth interim yn parhau nes i benderfyniad gael ei wneud a nes i Cadw ddweud wrth y perchennog, y meddiannydd a'r awdurdod cynllunio lleol perthnasol. Mae Cadw yn cyhoeddi rhestr o adeiladau o dan warchodaeth interim ar ei wefan. Gweld gwefan Cadw.

Os nad yw'r adeilad wedi'i restru, efallai y bydd iawndal am golled neu ddifrod a achoswyd gan y warchodaeth interim yn daladwy. Mae'n rhaid cyflwyno hawliadau ysgrifenedig am iawndal i Cadw o fewn chwe mis i'r dyddiad y daeth y warchodaeth interim i ben.

Mae'r manylion am ‘Sut i wneud cais am Adolygiad o Benderfyniad Rhestru’ neu ‘Sut i wneud cais am Ddadrestru Adeilad neu Ddiwygio Rhestriad’ hefyd i'w gweld yn y ddogfen gyhoeddedig, ‘Deall Rhestru yng Nghymru’ (Medi 2018).

Wrth ystyried p'un ai i restru adeilad, caiff Gweinidogion Cymru eu cynghori gan yr Arolygiaeth Adeiladau Hanesyddol, sef rhan o Cadw, sy'n cyflawni asesiadau ar sail yr egwyddorion hyn. Ymgynghorir ag awdurdodau lleol a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) hefyd.

Sut mae rhestru adeilad?

Cwblhawyd arolwg cenedlaethol i nodi adeiladau i'w rhestru ac i ddiweddaru'r rhestrau cyfredol gan Cadw ym mis Rhagfyr 2005. Rhestrwyd tua 30,000 o adeiladau yng Nghymru yn sgil hynny. 

Gellir ychwanegu adeiladau at y rhestr o hyd, a gallwch wneud ceisiadau i Cadw am restru adeiladau unigol. (Gweler yr adran ‘Sut mae gwneud cais am restru adeilad?’ uchod.) Gallwch hefyd wneud cais i'r Arolygiaeth Gynllunio am adolygiad o'r penderfyniad rhestru o fewn 12 wythnos i'r penderfyniad hwnnw ar y sail nad yw'r adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. 

Mae hefyd yn bosibl gofyn i Cadw ddadrestru adeilad neu ddiwygio rhestriad. (Am ragor o wybodaeth, gweler cyhoeddiad Llywodraeth Cymru/Cadw, sef ‘Deall Rhestru yng Nghymru’ (Medi 2018))

Caniatâd adeilad rhestredig

Os yw eich tŷ yn adeilad rhestredig, yn ogystal â chael caniatâd cynllunio a chymeradwyaeth rheoliadau adeiladu, bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig.  

Mae angen caniatâd adeilad rhestredig i newid, estyn neu ddymchwel (yn llwyr neu'n rhannol) adeilad rhestredig a/neu wrthrychau neu strwythurau ac adeiladau eraill ar dir adeilad rhestredig a adeiladwyd cyn 1 Gorffennaf 1948. Mae hefyd yn cynnwys gwaith y tu mewn i adeilad.

Er enghraifft, mae angen caniatâd adeilad rhestredig i wneud y canlynol:

  • gosod drysau a ffenestri newydd
  • gosod to newydd
  • gosod potiau simnai newydd
  • gosod nwyddau dŵr glaw newydd (e.e. cafnau a phibellau)
  • ailbwyntio'r adeilad cyfan
  • gwaith rendro neu osod rendrad newydd 
  • paentio neu ailbaentio rendr, gwaith cerrig, gwaith brics a gwaith saer allanol
  • cyflawni gwaith strwythurol mewnol, gan gynnwys dymchwel waliau a pharwydydd, creu drysau newydd, neu lenwi (neu ail-greu) drysau/ffenestri
  • cyflawni unrhyw waith ar risiau, lleoedd tân, brestiau simnai neu elfennau strwythurol/addurnol eraill

Nid yw'r rhestr hon yn un ddiffiniol ac, os ydych yn ansicr a fydd angen caniatâd ar gyfer yr hyn yr ydych wedi'i gynllunio ai peidio, gallwch gysylltu â'n Swyddog Cadwraeth a Dylunio ar 01443 866766.

Os ydych chi am gael rhywfaint o gyngor cyn gwneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig, ewch i'r dudalen ‘Arweiniad a gwasanaethau ceisiadau cynllunio o flaen llaw’ a'r adran Gwasanaethau ychwanegol ar gyfer cadwraeth

Mae'n drosedd i gyflawni gwaith mewn adeilad rhestredig heb ganiatâd, hyd yn oed os nad oeddech yn gwybod ei fod yn adeilad rhestredig. Os byddwch yn cyflawni gwaith heb awdurdod, gallwch gael eich cosbi drwy ddirwy neu ddedfryd o garchar, a gallwn ei wneud yn ofynnol i chi adfer yr adeilad i'w gyflwr gwreiddiol.

Ydy fy eiddo'n adeilad rhestredig? 

Gallwch wirio a yw'ch eiddo wedi'i restru drwy fwrw golwg dros yr adeiladau rhestredig ym mwrdeistref sirol Caerffili (PDF)

Sut mae gwneud cais am ganiatâd?

Pan fydd yr Awdurdod Cynllunio yn ystyried eich cais, rhaid iddo roi sylw arbennig i ddymunoldeb gwarchod yr adeilad, ei leoliad a'r nodweddion hynny sy'n ei wneud yn arbennig. Mae'r rhain yn bethau y dylech chi feddwl amdanynt wrth gynllunio'ch newidiadau arfaethedig.

Nid oes ffi am wneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig ac mae'r broses ymgeisio yn cymryd rhwng 8 a 14 wythnos (mae'r olaf o'r ddau yn cynnwys y broses ymgynghori 28 diwrnod o hyd gyda Cadw, os yw'r Cyngor yn ystyried cymeradwyo'r cais).

Mae'n bwysig anfon pob ffurflen gyda'r dogfennau cywir. Mae angen yr wybodaeth i wneud penderfyniad amserol a chytbwys. Gallwch weld yr hyn sydd ei angen drwy fwrw golwg dros y gofynion dilysu.

Rydym yn eich annog i gyflwyno'ch cais ar-lein drwy Ceisiadau Cynllunio Cymru.

 

Os byddai'n well gennych, gallwch lawrlwytho ffurflen gais a'i hanfon atom drwy'r post i: Isadran Cynllunio, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG

Dod o hyd i'r ffurflenni papur, a'u lawrlwytho

Asesiad o'r effaith ar dreftadaeth

O 1 Medi 2017 ymlaen, bydd angen datganiad o'r effaith ar dreftadaeth i gefnogi unrhyw gais am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth. Mae'r datganiad o'r effaith ar dreftadaeth yn disodli'r datganiad dylunio a mynediad yn y broses ymgeisio am ganiatâd adeilad rhestredig.

Mae canllawiau ar baratoi datganiad o'r effaith ar dreftadaeth i'w gweld yn y ddogfen gan Lywodraeth Cymru/Cadw: Asesiadau o'r Effaith ar Dreftadaeth yng Nghymru

Cysylltwch â ni