Diogelwch e-feiciau ac e-sgwteri
Mae sawl achos o danau wedi bod mewn tai yn y DU yn ddiweddar, ac mae'n debyg eu bod nhw wedi’u hachosi gan feiciau neu sgwteri trydan. Cadwch eich teulu a’ch cartref chi'n ddiogel drwy ddilyn y cyngor ynglŷn â'r pethau i’w gwneud a’r pethau na ddylech chi eu gwneud.
-
Prynwch e-feiciau, e-sgwteri, gwefrwyr a batris gan fanwerthwyr dibynadwy.
-
Dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr wrth wefru a thynnu plwg eich gwefrydd bob amser pan fydd wedi gorffen gwefru.
-
Gwefrwch y batris tra byddwch chi'n effro ac yn wyliadwrus.
-
Defnyddiwch y gwefrydd sydd wedi'i gymeradwyo gan y gwneuthurwr ar gyfer y cynnyrch bob amser ac, os gwelwch chi unrhyw arwyddion o draul, dylech chi brynu gwefrydd newydd sy'n swyddogol.
-
Dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer storio a chynnal a chadw batris lithiwm-ion os na fyddan nhw'n cael eu defnyddio am gyfnodau estynedig o amser.
-
Cadwch e-feiciau/e-sgwteri a'u batris nhw mewn lle oer. Dylech chi osgoi eu cadw nhw mewn ardaloedd sy'n rhy boeth neu oer.
- Peidiwch â gadael batris i wefru tra byddwch chi'n cysgu neu allan o'ch cartref chi.
-
Peidiwch â gorchuddio gwefrwyr neu baciau batri wrth wefru gan y gallai hyn arwain at ordwymo neu, hyd yn oed, dân.
-
Peidiwch â gwefru batris na chadw eich e-feic/e-sgwter yn agos at ddeunyddiau llosgadwy neu fflamadwy.
-
Peidiwch â gorwefru eich batri chi – darllenwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ynghylch amseroedd gwefru.
-
Peidiwch â gorlwytho pwyntiau trydan na defnyddio ceblau estyn amhriodol.
-
Peidiwch byth â chadw na gwefru e-feiciau/e-sgwteri mewn diangfeydd neu yn ardaloedd cymunedol adeilad amlfeddiannaeth.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: Beiciau a sgwteri electronig - Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (decymru-tan.gov.uk)