FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00am a 8:00am ar y 05 Mai 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00am and 8:00am on the 05 May 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Trwyddedau ar gyfer Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi

Bydd angen i chi gael eich trwydded o leiaf 24 awr cyn ei defnyddio ond dim mwy na phythefnos ymlaen llaw. Bydd ceisiadau yn cael eu prosesu yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gallwch chi wneud cais am drwydded ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Rhaid gwneud ceisiadau am drwyddedau wyneb yn wyneb yn Nhŷ Penallta drwy drefnu apwyntiad. Gallwch chi wneud apwyntiad drwy ffonio 01443 866571

Ni fyddwch chi'n gallu mynychu Tŷ Penallta heb apwyntiad a dim ond taliadau cerdyn sy'n cael eu derbyn os oes tâl yn cael ei godi.

Mae taliadau am drwydded ar gyfer gwastraff adeiladu a dymchwel (gan gynnwys gwastraff peryglus). Y taliadau hyn yw:

  • £39.36 am fan fach (hyd at 2,200kg ac ôl-gerbydau llai na 1.8m o hyd)
  • £78.72 ar gyfer faniau canolig (2,201kg – 3,499kg).

Am ragor o wybodaeth am ein system drwyddedau, gwelwch ein cwestiynau cyffredin.

 
Cysylltwch â ni