Chwarel Tŷ Llwyd Cwestiynau cyffredin

Pa fath o wastraff sydd yn y chwarel?

Rydyn ni'n credu bod y math o wastraff sydd wedi'i ddyddodi yn y chwarel yn cynnwys:

  • Bwndeli o glytiau sychu
  • Pennau ysgrifennu plastig
  • Clai
  • Tuniau wyau wedi'u gwasgu
  • Gwastraff ffatri a ffreutur cyffredinol
  • Biffenyl polyclorinedig
  • Ffabrigau, papur, deunydd cerdyn wedi'u trochi mewn toddyddion
  • Plastigau
  • Cemegau amrywiol

Ydy Iechyd yr Amgylchedd wedi canfod biffenyl polyclorinedig yn y samplau y maen nhw wedi'u cymryd?

Ydy, mae biffenyl polyclorinedig wedi'i ganfod mewn samplau trwytholch mae Iechyd yr Amgylchedd wedi'u casglu. Fodd bynnag, pan gymerodd Iechyd yr Amgylchedd bedwar sampl o’r dŵr a oedd yn dod o'r safle yn ystod y cyfnodau hir o dywydd gwlyb yn ddiweddar ym mis Ionawr 2023, nid oedd unrhyw biffenyl polyclorinedig yn unrhyw un o’r pedwar sampl.

Beth yw diben y siambr awyru?

Cafodd y siambr awyru ei chynllunio i gymryd unrhyw drwytholch allan o safle'r chwarel a'r coetir, yn ogystal ag unrhyw ddŵr daear mae'r trwytholch yn gallu effeithio arno a'i gynhyrfu'n naturiol i annog rhai o'r halogion i droi'n anwedd ac, felly, gwella ansawdd y dŵr cyn ei ddychwelyd i'r ddaear.

Sylwch fod y siambr awyru hefyd yn cymryd llawer iawn o ddŵr wyneb glân o law ac o system ddraenio cap y chwarel. Hefyd, mae'n gallu cymryd dŵr daear nad yw trwytholch yn effeithio arno.

Ydy'r siambr awyru'n gweithio?

Mae'n ymddangos bod y siambr awyru yn gweithio yn ôl y bwriad. Dangosodd samplau cyn ac ar ôl awyru (y pwynt lle mae'r trwytholch yn mynd i mewn i'r siambr a'r pwynt lle mae'n gadael) a gafodd eu cymryd ym mis Chwefror 2022 fod gwelliant mewn nifer o halogion rhwng canlyniadau'r samplau cyn ac ar ôl awyru. Mae'r samplu hwn wedi'i ail-wneud yn ddiweddar.

Roedd dŵr yn cronni o fewn y system ym mis Ionawr eleni ac roedd trwytholch yn arllwys i'r coetir ac yn gadael y safle. Pam digwyddodd hyn?

Yn ystod Rhagfyr 2022 ac Ionawr eleni, bu glaw sylweddol o drwm a achosodd i lefelau'r dŵr daear godi yn y chwarel.  Pan fydd hyn yn digwydd, mae'r dŵr daear yn gwthio unrhyw drwytholch yn y chwarel i'r wyneb ac yn cael ei gasglu gan gyfres o ddraeniau sy'n mynd i'r siambr awyru.

Methodd y siambr awyru ag ymdopi â maint y dŵr wyneb a'r dŵr daear a aeth i mewn i'r system, ac roedd hyn yn waeth oherwydd y rhwystrau o silt a dail a oedd yn cael eu golchi i mewn iddi. O ganlyniad, roedd y trwytholch yn y siambr yn cronni ac yn gorlifo gan arwain at drwytholch yn llifo dros ein tir ac i'r briffordd.

Fe wnaeth ein Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd fonitro’r sefyllfa, cymryd samplau o’r trwytholch yn y fan lle’r oedd yn mynd i mewn i’r briffordd ac, fel mesur rhagofalus, gosod tâp perygl dros dro ar y ‘llwybr troed answyddogol’ i geisio atal pobl rhag dod i mewn i’r ardal pan oedd y trwytholch yn llifo. Dywedodd y Cyngor wrth Cyfoeth Naturiol Cymru y digwyddiad hwn, maen nhw'n ymchwilio i'r mater fel digwyddiad.  

Beth oedd canlyniadau'r samplau a gafodd eu casglu ym mis Ionawr? A ddylwn i fod yn bryderus?

Roedd y samplau a gafodd eu casglu ym mis Ionawr pan adawodd y trwytholch y safle yn cynnwys lefelau isel o halogiad o'r enw benso(b)fflworanthen. 

Mae hwn yn hydrocarbon polyaromatig sydd, fel arfer, yn gysylltiedig â llosgi a hylosgi anghyflawn. Hefyd, mae'n bosibl dod o hyd iddyn nhw mewn cynhyrchion petroliwm. 

Buom ni'n trafod canlyniadau ein samplau ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac, o lefel yr halogion a oedd yn y samplau, ni fyddai unrhyw risg sylweddol i iechyd; fodd bynnag, fel mesur rhagofus, cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru oedd cadw pobl i ffwrdd o'r trwytholch cymaint â phosibl.

Mae hyn, ynghyd â chyngor gan aseswr risg yswiriant y Cyngor, wedi arwain at y penderfyniad i godi’r ffens o amgylch safle coetir Pant-y-ffynnon; o ganlyniad, rydyn ni'n gallu sicrhau nad oes unrhyw un yn dod i gysylltiad â’r trwytholch, gan negyddu unrhyw risgiau posibl.

Ydy safle Chwarel Tŷ Llwyd wedi cael ei ddosbarthu fel tir halogedig o dan Ran 2A o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990?

Nac ydy, nid yw'r safle wedi'i bennu'n ffurfiol yn dir halogedig.

 Mae tir wedi’i ddiffinio’n gyfreithiol fel ‘tir halogedig’ lle mae sylweddau yn achosi, neu'n gallu achosi:

  • niwed sylweddol i bobl, eiddo neu rywogaethau a warchodir
  • llygredd sylweddol i ddŵr wyneb (er enghraifft llynnoedd ac afonydd) neu ddŵr daear
  • niwed i bobl o ganlyniad i ymbelydredd.

Er mwyn i dir gael ei bennu yn dir halogedig, mae angen:

  • ffynhonnell halogiad sydd yn, ar neu o dan y tir sydd â'r potensial i achosi niwed sylweddol i dderbynle neu lygredd sylweddol i ddŵr rheoledig,
  • derbynle sy'n gallu cael ei effeithio'n andwyol gan yr halogydd,
  • a llwybr/ffordd lle mae halogydd yn effeithio ar y derbynle neu'n gallu effeithio ar y derbynle.

Er mwyn i unrhyw safle gael ei bennu’n ffurfiol yn dir halogedig, rhaid i’r rheolydd brofi bod ‘gysylltiad halogi’ rhwng y tair elfen uchod.

Yn 2013, daeth y Cyngor, drwy ei ymgynghorwyr tir halogedig arbenigol, i’r casgliad nad oedd y safle’n dod o dan y diffiniad cyfreithiol o dir halogedig.

Oherwydd presenoldeb trwytholch yn llifo yn y blynyddoedd diwethaf hyn yn dilyn cyfnodau hir o dywydd gwlyb, mae'r Cyngor a'u hymgynghorwyr yn y broses o gasglu data samplu i adolygu'r safbwynt hwn.

Gan mai digwyddiad tymhorol yn unig yw'r trwytholch yn llifo, mae angen casglu digon o ddata i lywio'r broses hon yn briodol. 

Mae hyn yn debygol o gymryd 12-18 mis pellach i gael y data perthnasol cyn i ymgynghorwyr y Cyngor allu asesu risg y safle a dod i’r casgliad a ddylai’r tir ddod o fewn y diffiniad cyfreithiol o dir halogedig.

Beth fyddai'n digwydd pe bai safle'r chwarel yn cael ei bennu'n gyfreithiol yn dir halogedig?

Pe bai'r monitro'n dangos bod y chwarel yn achosi llygredd sylweddol i ddŵr wyneb, ddŵr daear neu bobl, mae'r Cyngor yn gallu pennu'n ffurfiol bod y tir yn dir halogedig.

Pe bai hynny'n digwydd, byddai'r Cyngor naill ai'n cyflwyno hysbysiad adfer i'r person(au) cyfrifol (y rhai a ddyddododd yr halogiad), neu os nad oes gan y Cyngor ddigon o dystiolaeth i allu adnabod y person(au) cyfrifol neu i yn dosrannu atebolrwydd yn briodol, mae'n debygol y bydd y Cyngor yn cynhyrchu datganiad adfer.

Byddai'r hysbysiad a'r datganiad ill dau yn manylu ar ba waith fyddai ei angen i dorri'r cysylltiad halogi, lleihau llygredd dŵr rheoledig neu leihau'r niwed sylweddol i iechyd i lefel dderbyniol. 

Oes raid i'r tir gael ei bennu'n dir halogedig ?

Nac oes

Mae'r Canllawiau Statudol yn nodi y dylai Rhan 2A ond yn cael ei defnyddio lle nad oes ateb priodol yn bodoli ac mae tirfeddianwyr yn gallu mynd i'r afael â halogiad tir yn annibynnol.

Fel perchennog y tir, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i fonitro a rheoli'r safle fel y mae wedi'i wneud ers ffurfio Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ym 1996, a byddwn ni'n parhau i wneud hynny, hyd yn oed os nad yw'r safle yn cael ei bennu'n tir halogedig.

Os mae'r tir yn cael ei bennu'n dir halogedig, pwy fyddai yn dwyn cost yr adferiad?

Mae'r broses o bennu atebolrwydd a dosrannu atebolrwydd (lle mae mwy nag un person yn gyfrifol am gysylltiad halogi) yn gymhleth iawn. Gan fod y safle hwn yn safle tirlenwi preifat heb ei reoleiddio ac nid ydyn ni'n cadw cofnodion cywir o ba gwmnïau a ddyddododd pa wastraff ac ym mha symiau, mae'n gallu bod yn anodd iawn pennu atebolrwydd neu ddosrannu atebolrwydd rhwng y rhai a allai fod yn gyfrifol. Mae yna hefyd waharddiadau a phrofion ariannol sy'n gallu bod yn berthnasol i'r broses hynod gymhleth hon hefyd.

Os nad ydyn ni'n gallu adnabod y person(au) ac sy'n gallu bod yn gyfrifol am y cysylltiad halogi, mae'r cysylltiad wedyn yn cael ei bennu'n ‘cyswllt amddifad’ a byddai'r Awdurdod Lleol wedyn yn gyfrifol am ariannu cost y gwaith adfer.

A fyddai pennu'r tir yn dir halogedig yn arwain at symud gwastraff o safle'r chwarel?

Na fyddai, nid o reidrwydd.

Mae’r Canllawiau Statudol yn nodi bod yn rhaid i’r Awdurdod, wrth benderfynu beth sy’n rhesymol, ystyried ffactorau amrywiol, gan roi sylw arbennig i:

  • ymarferoldeb, effeithiolrwydd a pharhad y gwaith adfer;
  • effeithiau iechyd ac amgylcheddol yr opsiynau adfer sy'n cael eu dewis;
  • y gost ariannol sy'n debygol o fod yn gysylltiedig; a
  • manteision yr adferiad o ran difrifoldeb y niwed neu'r llygredd i'r dŵr rheoledig dan sylw.

Pe bai adferiad yn cael ei ystyried, byddai'n rhaid i'r Cyngor edrych ar amrywiaeth o opsiynau, gan gynnwys gwneud dadansoddiad cost a budd ar gyfer pob opsiwn.

SYLWCH: byddai angen i'r opsiwn adfer dorri'r cysylltiad halogi naill ai trwy ddileu/leihau'r ffynhonnell, y llwybr neu'r derbynle.

Weithiau rwy'n gallu arogli'r trwytholch o Twyn-gwyn Road a'r llwybr troed ar hyd safle'r coetir. Ydy'r arogl hwn yn niweidiol i'm hiechyd?

Bydd gan rai sylweddau drothwy arogli isel; mae hyn yn golygu y byddwch chi'n eu harogli ymhell ymlaen llaw cyn iddo ddod yn risg i iechyd dynol.

Yn syml, nid yw arogli rhywbeth yn golygu bod risg i iechyd pobl. Cynhaliodd ein hymgynghorwyr asesiad risg anwedd, a ddaeth i’r casgliad bod y risg i iechyd dynol yn isel i bobl sy’n defnyddio’r llwybr troed ac i'r rhai sy'n mynd heibio ar y ffordd. 

Fodd bynnag, ar ôl trafod hyn ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, maen nhw'n teimlo y byddai’n fuddiol gwneud rhywfaint o waith monitro anwedd yn yr ardal yn ystod cyfnodau hir o dywydd gwlyb, pan fydd y trwytholch yn bresennol, er mwyn llywio’r asesiad risg wrth symud ymlaen.  Byddwn ni'n sicrhau bod hyn yn cael ei wneud.

Roedd sôn ar ITV News bod pobl yn cael eu cynghori i beidio â thyfu llysiau yn eu gardd; ydw i'n gallu tyfu llysiau yn fy ngardd?

Ydych. Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cynghori trigolion Ynys-ddu i beidio â thyfu na bwyta ffrwythau neu lysiau cartref.

Pam fod y coetir yn cael ei ffensio?

Unwaith bod y rownd gyntaf o waith gwella draenio'n wedi cael ei chwblhau yn 2021, cafodd gât dan glo ei gosod ar y fynedfa i'r coetir, cafodd y siambr awyru ei ffensio a chafodd cornel y safle (yn agos at y llwybr troed) ei ffensio hefyd er mwyn atal mynediad anawdurdodedig i'r ardal.

Yn anffodus, rydyn ni wedi cael gwybod bod nifer o bobl yn cael mynediad rheolaidd i safle'r coetir sydd wedi’i ffensio, heb ganiatâd, er iddyn nhw gael eu hysbysu dro ar ôl tro na ddylen nhw fynd ar dir y Cyngor.

O ganlyniad, ceisiodd y Cyngor gyngor gan ei yswirwyr, a argymhellodd fod y safle'n cael ei ddiogelu'n llawn gyda ffensys ac arwyddion priodol. Mae'r arwyddion dwyieithog ar gyfer y safle wedi eu harchebu ac mae arwyddion dros dro wedi eu gosod yn y cyfamser.

A fydd ffensys y coetir yn rhwystro unrhyw hawliau tramwy/llwybrau troed

Ni fydd yr hawliau tramwy/llwybrau troed sydd wedi'u mabwysiadu'n ffurfiol yn cael eu heffeithio ac rydyn ni, hyn o bryd, yn gweithio gyda chydweithwyr Cefn Gwlad ar arwyddion priodol i sicrhau bod pobl yn gwybod ble mae'r rhain.