Iechyd yr Amgylchedd

Cyfarfod Grŵp Ymgysylltu Bryn- 19 Hydref 2023 Diweddariad gan Iechyd yr Amgylchedd

Llwch

Yn anffodus, mae problem dechnegol gyda'r monitor llwch yn golygu nad oes adroddiad ar gael ar gyfer y cyfarfod hwn. Mae contractwyr arbenigol yn gweithio i ddatrys y broblem.

Ers y cyfarfod diwethaf, ni dderbyniwyd unrhyw gwynion yn ymwneud â llwch.

Sŵn

Ers y cyfarfod diwethaf, a gynhaliwyd ar 5 Mehefin, bu cyfanswm o chwe chwyn yn ymwneud â sŵn. Mae un yn ymwneud â sŵn o larwm pan mae cerbyd yn bacio’n ôl yn y chwarel, tri yn ymwneud â sŵn o'r chwarel, un yn ymwneud â dirgryniad o ffrwydrad ac un yn ymwneud â sŵn o ffan.

Ymatebwyd i bob cwyn ac mae achwynwyr wedi cael eu diweddaru.

Arogl

Ers y cyfarfod diwethaf, bu cyfanswm o wyth cwyn yn ymwneud ag arogl, a wnaed gan gyfanswm o dri o bobl.

Roedd pump o'r cwynion hyn yn cyd-daro â gweithrediadau gwasgaru. O'r pump hyn, ymwelodd swyddogion ar dri achlysur gwahanol ac ni ddaethpwyd ar draws arogleuon.

Derbyniwyd y tair cwyn arall pan nad oedd unrhyw wasgaru yn digwydd.

Yn anffodus, er gwaethaf sawl cais i beidio â gwneud hynny, mae un o'r achwynwyr yn parhau i e-bostio swyddog yn uniongyrchol yn hytrach na hysbysu ein canolfan gyswllt. Mae hyn yn golygu oedi anochel wrth ymateb, gan fod y swyddog yn gweithio'n rhan amser ac efallai’n ymweld â’r safle ac, felly, ddim yn gallu ymateb i e-byst. Bydd galwad ffôn i'r ganolfan gyswllt yn darparu ymateb llawer cyflymach ac yn galluogi swyddogion (pan fyddan nhw ar gael) i fynd i ymchwilio i'r honiad.

Derbyniwyd tair cwyn ychwanegol drwy Cyfoeth Naturiol Cymru, ond ni ddarperir enwau a chyfeiriadau ac, felly, ni ellir ymchwilio iddyn nhw.