FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00am a 8:00am ar y 05 Mai 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00am and 8:00am on the 05 May 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Deall Awtistiaeth

Mae’r Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol wedi datblygu dau fodiwl hyfforddi ar-lein i unrhyw un eu cyrchu.

  • Mae’r modiwl ‘deall awtistiaeth’ yn darparu lefel sylfaenol o ddealltwriaeth o awtistiaeth a’r ffyrdd y gallai effeithio ar fywydau beunyddiol pobl awtistig. Mae'n cynnwys cyngor ar bethau y mae modd i bobl eu gwneud, er mwyn deall awtistiaeth yn well.
  • Nod y modiwl ‘deall cyfathrebu effeithiol ac awtistiaeth’ yw gwella dealltwriaeth o wahaniaethau o ran cyfathrebu, y ffordd orau o gyfathrebu, a chynyddu ymwybyddiaeth o’r effaith y gall ffactorau amgylcheddol ei chael ar sut mae pobl awtistig yn cyfathrebu. 

Cymuned Ymarfer

Mae amrywiaeth o recordiadau ar gael o'r digwyddiadau Cymuned Ymarfer.

Mae'r digwyddiadau hyn yn canolbwyntio ar amrywiaeth o wahanol gyflyrau niwrowahanol, a materion sy'n effeithio ar y gymuned niwrowahanol. 

Gwasanaeth Cymorth Awtistiaeth i Blant

Mae Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod yn cynnig gwybodaeth a hyfforddiant, gan gynnwys hyfforddiant ôl-ddiagnosis i deuluoedd.

Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig

Mae'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig hefyd yn cynnig hyfforddiant i oedolion ag awtistiaeth a’u teuluoedd nhw, yn ogystal â chwrs ôl-ddiagnostig sy’n cyflawni'r canlynol:

  • Cwrs cadarnhaol a grymusol wedi'i ddatblygu ar gyfer pobl ag awtistiaeth (bydd angen i chi gael diagnosis o anhwylderau yn y sbectrwm awtistig i fynychu)
  • Bydd yn eich galluogi chi i gael dealltwriaeth o anhwylderau yn y sbectrwm awtistig
  • Byddwn ni'n siarad am bynciau gwahanol yn ymwneud â'ch diagnosis
  • Byddwn ni'n datblygu rhai syniadau gyda'n gilydd a fyddai'n gallu eich helpu gyda rhai o'r anawsterau sydd gennych chiBydd y cwrs yn para 6 sesiwn.
  • Bydd pob sesiwn yn para tua 2 awr a byddwn ni'n cael egwyl o 15 munud yng nghanol pob sesiwn. 

Gall sefydliadau ac elusennau lleol eraill hefyd ddarparu hyfforddiant a chyngor pellach: