Cynllun cymorth tanwydd gaeaf
O hanner nos ar 28 Chwefror, bydd y cynllun ar gau. Ni fydd ceisiadau sy’n do di law ar ôl yr amser hwn yn ddilys. Gan ein bod yn derbyn nifer fawr o geisiadau dylech fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl na chaiff penderfyniad na thaliad ei wneud cyn 31 Mawrth 2022.
Fel rhan o becyn cymorth o dros £50 miliwn i fynd i’r afael â’r pwysau uniongyrchol ar gostau byw, mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau dros £38 miliwn drwy gyfrwng Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf.
Gall aelwydydd cymwys hawlio un taliad o £200 i rhoi cefnogaeth tuag at dalu eu biliau tanwydd ar y grid dros y gaeaf.
Noder: Os ydych chi eisoes wedi cael taliad o £100, byddwn ni'n anfon taliad arall o £100 i'r cyfrif banc rydych chi wedi'i nodi cyn gynted ag y gallwn ni. Peidiwch â gwneud cais arall gan y bydd hwn yn cael ei wrthod fel copi dyblyg a gallai arafu'r broses o gael taliad arall i chi.
Mae’r cynllun ar agor i aelwydydd lle mae un aelod yn derbyn budd-daliadau lles oedran gweithio sy’n dibynnu ar brawf modd (ar unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022):
- Cymhorthdal Incwm, neu
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, neu
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, neu
- Gredyd Cynhwysol, neu
- Gredyd Treth Gwaith.
Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd gymwys, p'un ai ydyn nhw'n talu am eu tanwydd ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter.
Mae aelwyd yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn os yw’n gyfrifol am dalu biliau tanwydd ei heiddo.
Diffinnir cartref cymwys ar gyfer y cynllun hwn isod:
Unigolyn Sengl
Rydych chi’n gwneud cais i’r cynllun cyn hanner nos ar 18 Chwefror 2022
Chi sy’n gyfrifol am dalu biliau tanwydd ar y grid eich eiddo
Rydych chi'n derbyn budd-dal lles oedran gweithio sy’n dibynnu ar brawf modd ar unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022
- Cymhorthdal Incwm, neu
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, neu
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, neu
- Gredyd Cynhwysol, neu
- Gredyd Treth Gwaith
Dydych chi ddim wedi derbyn taliad dan y cynllun o’r blaen:
Cwpl
Rydych chi neu’ch partner yn gwneud cais i’r cynllun cyn hanner nos arr 18 Chwefror 2022
Chi, eich partner neu’r ddau ohonoch chi sy’n gyfrifol am dalu biliau tanwydd ar y grid eich eiddo.
Rydych chi, eich partner neu’r ddau ohonoch chi’n derbyn budd-dal lles oedran gweithio sy’n dibynnu ar brawf modd ar unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022
- Cymhorthdal Incwm, neu
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, neu
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, neu
- Gredyd Cynhwysol, neu
- Gredyd Treth Gwaith
Dydych chi na’ch partner ddim wedi derbyn taliad dan y cynllun o’r blaen
Byddwn yn ysgrifennu at aelwydydd y credwn sy’n gymwys i ofyn am wybodaeth sylfaenol i gefnogi’r cais ynghyd â manylion i alluogi’r taliad. Fel arall, gall unigolion sy’n gredu fod yn gymwys am y cymorth hwn gyflwyno cais drwy’r wefan yma o 13 Rhagfyr 2021 ymlaen.
Rhaid i bob cais cyrraedd cyn hanner nos ar 28 Chwefror 2022. Bydd y taliadau i ymgeiswyr llwyddianus cael eu gwneud o Ionawr 2022 trwy i’r diwedd o Fawrth 2022.
Os ydych chi’n wynebu caledi ariannol difrifol, efallai yr hoffech chi wneud cais i’r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF).
Cyn dechrau eich cais, sicrhewch fod gennych y wybodaeth ganlynol:
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Rhif cyfrif eich Treth Cyngor
- Cyfeirnod yr Hawliad Budd-dal (Os ydych yn hawlio Budd-dal Tai a/neu geisiadau Gostyngiad Treth Gyngor)