Cronfa Budd Cymunedol Oakdale
Daw’r cyllid ar gyfer y cynllun grant hwn gan Partnership for renewables fel rhan o’i ymrwymiad i gefnogi cymunedau lleol sy’n agos at y ddau dyrbin gwynt ym Mharc Busnes Oakdale. Nod Cronfa Budd Cymunedol Oakdale yw cefnogi a bod o fantais i gymunedau dichonadwy a chynaliadwy o fewn ardal Oakdale.
Rhaid i brosiectau cwrdd ag un neu fwy o’r amcanion canlynol:
- Maent yn arloesol ac yn wahanol gan gyffroi a chynnwys y bobl y mae’r grantiau ar eu cyfer
- Maent yn annog defnydd ynni adnewyddadwy gan helpu cymunedau i arbed ynni neu gynhyrchu ynni at eu defnydd eu hunain
- Byddant yn diogelu a gwella’r amgylchedd a’r seilwaith lleol trwy fentrau cadwraeth ac amgylcheddol lleol gan wneud defnydd effeithiol o dir ac adeiladau
- Byddant yn gwella ansawdd bywyd pobl trwy gyfl eoedd cymdeithasol, diwylliannol a hamddenol
- Byddant n hyrwyddo ac annog pobl leol i ddiogelu dyfodol cynaliadwy ar gyfer cymunedau lleol ac/neu yn annog adfywio
Pwy all wneud cais am grant?
Mudiadau a phartneriaethau gwirfoddol/cymunedol sydd â chyfansoddiad wedi’i arwyddo a’u cyfrif banc eu hunain yn y cymunedau canlynol: Argoed, Croespenmaen, Kendon, Oakdale, Penmaen, Pen-twyn a Thrinant.
Sut i ymgeisio
Trwy lenwi ffurfl en gael sydd ar gael gan:- Sharon Peters, Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7FN. E-bost: 01443 866220 or ffôn vokescl@caerphilly.gov.uk.
Beth yw lefel y grant sydd ar gael?
Mae’n rhaid i’r cyllid gael ei wario erbyn 31ain Mawrth y fl wyddyn ariannol y caiff ei ddyfarnu ynddi a dylai ceisiadau fod am uchafswm o £3,000. Mae modd cynnig grantiau am hyd at werth 80% o gyfanswm cost y prosiect a chaiff y cyllid dros ben ei ddarparu gan yr ymgeisydd neu trwy dderbyn arian cyfatebol gan ffynonellau eraill.
Pa mor aml mae ceisiadau grant yn cael eu hystyried?
Cynhelir o leiaf dwy rownd ymgeisio y fl wyddyn, ym mis Ebrill ac ym mis Medi (yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael).