Ysgrifennu ar gyfer y we

Gwnewch eich cynnwys yn hawdd i’w frasddarllen

Dylech chi ysgrifennu cynnwys yn benodol ar gyfer y we a pheidio âi gopïo o ddeunyddiau printiedig. Nid yw defnyddwyr yn darllen y cynnwys gair am air; maen nhw'n brasddarllen y dudalen. Felly, dylech chi wneud eich cynnwys yn hawdd i’w frasddarllen.

Pethau i'w cadw mewn cof wrth ysgrifennu cynnwys ar gyfer y we:

  • Cynhwyswch y testun pwysicaf ar frig y dudalen.
  • Ysgrifennwch baragraffau byr a hawdd eu darllen (2-3 brawddeg).
  • Defnyddiwch benawdau ac is-benawdau clir, fel y mae ymwelwyr yn gallu dod o hyd i'r hyn y maen nhw'n chwilio amdano yn hawdd drwy brasddarllen y testun.
  • Cadwch eich cynulleidfa mewn cof. Nid yw pobl sy'n darllen y wefan yn gweithio yn y Cyngor, felly, ni fyddan nhw'n deall jargon mewnol, iaith arbenigol na'r acronymau rydych chi'n eu defnyddio gyda chydweithwyr. Os oes angen i chi ddefnyddio iaith dechnegol nad yw'n gyfarwydd i'ch defnyddwyr, dylech chi ei hesbonio y tro cyntaf i chi ei defnyddio.
  • Defnyddiwch ddolenni mewnol, yn lle teipio'r URL llawn. Er enghraifft, Llywodraeth Cymru (yn lle https://llyw.cymru/).
  • Mewnosodwch ddolenni lle bo'n berthnasol. Er enghraifft, wrth sôn am Lywodraeth Cymru, rhowch ddolen i'w gwefan.
  • Mewnosodwch ddolenni sy’n gwneud synnwyr allan o gyd-destun ac osgoi ‘cliciwch yma’; nid yw’n hygyrch i ddefnyddwyr â nam ar eu golwg sy’n defnyddio darllenydd sgrin. Er enghraifft, 'Gallwch chi ddod o hyd i ragor o ganllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru', yn hytrach na 'Clicio yma i weld canllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru'.
  • Ceisiwch osgoi defnyddio llythrennau italig, oni bai eich bod yn cyfeirio at lyfr neu gyfnodolyn. Bydd hwn yn anodd ei ddarllen ar-lein.
  • Defnyddiwch ffont trwm i bwysleisio testun.
  • Peidiwch â thanlinellu testun, bydd hyn yn drysu defnyddwyr. Yn gyffredinol, mae testun wedi'i danlinellu yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dolenni.
  • Dylai testun a theitlau gael eu halinio i'r chwith ac nid yn y canol.
  • Ceisiwch osgoi defnyddio priflythrennau gan eu bod yn arafu cyflymder darllen.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n prawfddarllen a golygu'r testun.
  • Torrwch eiriau diangen. Torrwch! Torrwch! Torrwch! Os gallwch chi nodi geiriau diangen, yna tynnwch nhw er mwyn gwneud eich pwynt yn gyflymach ac yn hawdd. Ysgrifennwch yn gryno, gadael geiriau diangen allan a chadw at y ffeithiau.

Help

Cysylltwch â Thîm y We os oes angen:

  • gofyn cwestiwn
  • cael help i ysgrifennu cynnwys
  • gwneud awgrym ar gyfer rhywbeth y mae angen i ni ei gynnwys yn y canllaw hwn

Dolenni Defnyddiol: