Strwythur

Sut i optimeiddio eich gwefan chi ar gyfer peiriannau chwilio (SEO)

Mae'r ffordd y mae tudalen we wedi'i strwythuro yn pennu sut mae peiriannau chwilio yn mynegeio'r dudalen. Dylech chi ddefnyddio'r elfennau canlynol wrth ychwanegu tudalennau:

  • Penawdau
  • Pwyntiau bwled
  • Disgrifiadau meta
  • Geiriau allweddol
  • Dolenni pwysig ar bob tudalen

Penawdau

Yn HTML, mae chwe lefel o benawdau. H1 yw'r pennawd pwysicaf ar dudalen a dyma'r peth cyntaf y bydd peiriant chwilio yn chwilio amdano. 

Mae gwefan Cyngor Caerffili yn cynhyrchu'r pennawd <H1> yn awtomatig. Mae hwn yn dod o enw'r adran yn y System Rheoli Cynnwys (CMS).  Dim ond unwaith ar dudalen y dylai'r pennawd hwn gael ei nodi.

Yna, wrth i chi ysgrifennu eich cynnwys, gallwch chi ddefnyddio is-benawdau H2 a H3 i gyflwyno gwahanol adrannau.

Fel arfer, nid yw'r rhan fwyaf o gynnwys yn mynd yn ddigon ‘dwfn’ i fod angen defnyddio tagiau H4 a thu hwnt oni bai eich bod chi'n ysgrifennu cynnwys hir neu dechnegol. Anaml y bydd H5 a H6 yn cael eu defnyddio a dyma'r rhai lleiaf pwysig. 

Disgrifiadau meta

Mae disgrifiadau meta yn rhoi esboniadau o gynnwys tudalen we ac maen nhw'n cael eu defnyddio yn gyffredin ar Dudalennau Canlyniad Peiriannau Chwilio (SERPs) i arddangos cipolwg ar gyfer tudalen benodol. 

Er nad yw Google bellach yn ystyried disgrifiadau meta wrth raddio tudalennau, maen nhw'n bwysig wrth ennill ymwelwyr o SERPs. Dylai'r disgrifiad fod rhwng 150-160 o nodau a dylai gynnwys testun cymhellol sy'n gysylltiedig â'r dudalen y bydd chwiliwr am ei chlicio.

Dylech chi wirio disgrifiadau meta ddwywaith wrth olygu tudalennau gwe a'u diweddaru fel y bo'n briodol.

Geiriau allweddol

Dylai'r testun gynnwys geiriau allweddol neu ymadroddion sy'n cael eu defnyddio'n aml mewn chwiliadau.

Dewiswch eiriau allweddol sy'n adlewyrchu cynnwys eich tudalen we yn fwyaf cywir. Er enghraifft, ar dudalen am gau ysgolion, byddai ‘Ysgolion’ a ‘Cau’ yn eiriau allweddol pwysig. Defnyddiwch eiriau allweddol cymaint â phosibl o fewn yr elfennau canlynol ar y dudalen we:

  • Teitl y dudalen
  • Penawdau
  • Cynnwys y testun, yn enwedig yn y paragraff cyntaf
  • Cysylltiadau ystyrlon

Bydd defnyddio geiriau ystyrlon ar gyfer eich adran/tudalen ac enwau ffeiliau cyfryngau hefyd yn gwella graddio tudalennau, e.e. defnyddiwch 'Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili' yn hytrach na thalfyriadau fel 'CBSC'.

Dolenni

Mae Google (a pheiriannau chwilio eraill) yn graddio tudalennau gwe yn uwch pan fydd ganddyn nhw fwy o ddolenni allanol yn pwyntio atyn nhw. Maen nhw'n cymryd yn ganiataol, os yw trydydd partïon yn cysylltu â gwefan, bod yn rhaid iddyn nhw gynnwys rhywbeth o werth.

Os oes gan Gyngor Caerffili gant o ddolenni allanol sy'n pwyntio at ei dudalen am breswylwyr a dim ond deg sydd gan dudalen we arall, bydd tudalen Cyngor Caerffili yn ymddangos yn llawer uwch. Rhaid i wefannau cysylltu fod yn wefannau o safon, er enghraifft, mae dolen gan Lywodraeth Cymru neu'r BBC yn werth llawer mwy na dolen gan sefydliad bach.

Dulliau eraill i roi hwb i'ch gwefan

  • Cynhwyswch eich URL ar daflenni a chyhoeddiadau
  • Defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol
  • Dosbarthwch eich URL ar restrau postio perthnasol.
  • Cynhwyswch eich URL mewn llofnodion e-bost