Lliwiau a chyferbyniad

Mae cyferbyniad lliw yn elfen o set ehangach o safonau gwe sy'n rhan o hygyrchedd. Nod hyn yw sicrhau nad yw neb, gan gynnwys y rhai ag anableddau, yn cael anawsterau sy'n atal rhyngweithio â gwefannau.

Bydd lliwiau â chyferbyniad isel yn ei gwneud hi'n anodd i ddefnyddwyr gweledol ddarllen a/neu weld y cynnwys ar y dudalen we. Mae canllawiau cyferbyniad lliw yn nodi y dylai fod o leiaf gymhareb 4.5:1 rhwng y cynnwys a chefndir y cynnwys

Os oes gan eich cynnwys lefel uchel o wahaniaeth rhwng y testun a’r cefndir, mae mwy o bobl yn gallu amgyffred, defnyddio a llywio drwy’r cynnwys.

Gwerth lliwiau

Mae lliw yn arf pwerus ar gyfer creu adnabyddiaeth brand, creu ymddiriedaeth, darparu trefn, a phwysleisio negeseuon pwysig. Mae cael y palet lliwiau cywir yn gallu helpu defnyddwyr i lywio'n effeithlon ac ymgysylltu â chynnwys. Os oes gennych chi'r palet lliwiau anghywir, neu os nad oes gennych chi un o gwbl, mae hyn yn gallu drysu, cythruddo a, hyd yn oed, yrru defnyddwyr i ffwrdd.

Mae lliw yn chwarae rhan allweddol wrth helpu defnyddwyr i lywio drwy'r wefan, gan eu helpu i ddeall y cynnwys yn glir ac yn gyflym.

Mae lliw hefyd yn helpu strwythuro trefn cynnwys, gan ganolbwyntio sylw ar wybodaeth bwysig a galwadau i weithredu (CTA).

Dolenni defnyddiol