Rheoliadau Adolygu Dosbarthau Etholiadol a Mannau Pleidleisio (Etholiadau Seneddol) 2006 

Cyflwynodd adran 17 o Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013 ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ‘gynnal a chwblhau’ adolygiadau o ddosbarthau etholiadol a mannau pleidleisio cyn 31 Ionawr 2025.

Er mwyn cydymffurfio â'r ddyletswydd hon, cynhelir yr adolygiad ym mwrdeistref sirol Caerffili rhwng 9 Chwefror a 28 Mawrth.

Hoffem wahodd sylwadau cychwynnol gan etholwyr ynghylch hwylustod pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer etholiadau a byddem yn croesawu awgrymiadau ar gyfer safleoedd amgen.

Bydd yr adolygiad yn ceisio cadarnhau pa mor addas mae lleoliad y gorsafoedd pleidleisio ym mhob ardal etholiadol gan gyfeirio yn benodol at faterion anabledd a mynediad. Byddem yn croesawu sylwadau ar gynigion yr awdurdod gan unrhyw berson neu gorff sydd ag arbenigedd mewn materion mynediad yn achos pobl ag unrhyw fath o anabledd.

Fel rhan o'r adolygiad bydd Swyddogion Canlyniadau y tair etholaeth yn y fwrdeistref sirol yn gwneud sylwadau ar y gorsafoedd pleidleisio arfaethedig.

Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am yr adolygiad, gan gynnwys unrhyw sylwadau gan y Swyddogion Canlyniadau, yn www.caerffili.gov.uk. Mae pecyn gwybodaeth, sy'n rhoi gwybodaeth am bob gorsaf, hefyd ar gael.

Gellir cyflwyno argymhellion ar bapur i Adolygiad Pleidleisio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Bargod, 1 Ffordd Santes Gwladys, Bargod, CF81 8AB neu mewn e-bost i etholiadau@caerffili.gov.uk

Rhaid cyflwyno ymatebion i Gam 1 yr adolygiad erbyn 29 Chwefror

  • Christina Harrhy
  • Prif Weithredwr
  • Tŷ Bargod 1 Ffordd Santes Gwladys Bargod CF81 8ND
  • 9 Chwefror 2024