FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Adroddiad Hunanasesu

Croeso i hunanasesiad blynyddol cyntaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Yn 2021, daeth y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn gyfraith a gosododd dull newydd o sut mae cynghorau'n asesu ac adrodd am eu heffeithlonrwydd.

Mae'r ddeddfwriaeth wedi'i chynllunio i fod yn ddull o berfformiad, llywodraethu da a gwelliant mewn ffordd symlach, hyblyg, wedi'i harwain gan y sector. Y bwriad yw i gynghorau fod yn rhagweithiol wrth ystyried sut y dylai prosesau a gweithdrefnau mewnol newid, er mwyn galluogi cynllunio, cyflawni a gwneud penderfyniadau mwy effeithiol i ysgogi canlyniadau gwell.

Yn y Ddeddf, mae dyletswydd i barhau i adolygu i ba raddau mae’r Cyngor yn cyflawni ei ofynion perfformiad, sy’n adlewyrchu i ba raddau mae’r Cyngor:

  • yn ymarfer ei swyddogaethau'n effeithiol.
  • yn defnyddio ei adnoddau mewn ffordd economaidd, effeithlon ac effeithiol.
  • yn rhoi llywodraethu effeithiol ar waith i sicrhau'r uchod.

Rhaid i'r Cyngor gyhoeddi adroddiad hunanasesu unwaith ym mhob cyfnod ariannol, sy'n ystyried y prif bwyntiau dysgu, a beth y bydd yn ei wneud i'w gwella nhw. Mae'r adroddiad hunanasesu yn ffordd o adolygu’n feirniadol, ac yn onest, ei sefyllfa bresennol, i wneud penderfyniadau ar sut i sicrhau gwelliant ar gyfer y dyfodol. Mae'r adroddiad hunanasesu yn cymryd lle yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol blaenorol.

Mae'r adroddiad yn cynnwys adrannau am:

  • Sut ydyn ni'n cynnal hunanasesiad
  • Sut ydyn ni'n monitro cynnydd
  • Dysgu allweddol o 2021/222
  • Gwiriadau Iechyd Allweddol Eraill y Cyngor – Cydraddoldeb a'r Iaith Gymraeg, Datgarboneiddio, Ymgynghori ac Ymgysylltu
  • Diweddariad am ein Hamcanion Llesiant o 2021/22

Adroddiad Hunanasesu (gan gynnwys Amcanion Llesiant) 2021/22

Roedd yr adroddiad wedi'i adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 11 Hydref, ei graffu yng nghyfarfod y Cydbwyllgor Craffu ar 10 Tachwedd, a'i gymeradwyo gan y Cabinet ar 30 Tachwedd.

Os oes gennych chi unrhyw sylwadau hoffech chi eu gwneud am ein hadroddiad hunanasesu neu os hoffech chi awgrymu unrhyw feysydd i'w gwella yn y dyfodol a ddylai fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor, cysylltwch â'r Uned Gwella Busnes.

Mae'r adroddiad ar gael mewn fformatau eraill ar gais.

Mae’r adroddiad yn cefnogi’r egwyddorion yn Rhan 6, Pennod 1 o ganllawiau statudol Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Cysylltwch â ni