FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr

Welsh-Traveller-Survey-Flyer.jpg


Mae Rhan 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru gyflawni asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr a, lle nodir bod angen sydd heb ei fodloni, yn darparu lleiniau mewn safle preswyl.

Rydyn ni wrthi'n cynnal Arolwg Sipsiwn a Theithwyr 2021, ac yn gofyn i'r holl Sipsiwn a Theithwyr sy'n byw yn y Fwrdeistref Sirol i gysylltu â ni drwy cyn 31 Hydref 2021 ffonio 01443 811380 neu e-bostio StrategaethADatblygu@caerffili.gov.uk.

Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gyflawni asesiad ar wahân ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr oherwydd y nifer isel iawn ohonynt sy'n byw yn y fwrdeistref, oherwydd bod eu diwylliant yn wahanol iawn i'r gymuned sefydledig, ac oherwydd yr hyn y gallai hynny ei olygu o ran bodloni eu hanghenion llety.  Mae’r Cyngor wedi cyflawni asesiad o anghenion tai’r gymuned sefydledig - darllenwch yr asesiad ar y farchnad dai leol.

Cafodd yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr ei gymeradwyo gan y Cabinet ar 17 Chwefror 2016 ac fe’i cyflwynwyd i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo ar 26 Chwefror 2016. Mae statws yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr yn ddrafft terfynol yn amodol ar gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru.

Hysbysiad Preifatrwydd (PDF)

Gwybodaeth bellach

Asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr Caerffili Drafft (2016)

Cynnal Asesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr - Arweiniad Llywodraeth Cymru (PDF)

 

Cysylltwch â ni