Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 2019-2022
Datblygwyd y Strategaeth Gyfathrebu hon er mwyn helpu i ddiffinio’r ffordd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymgysylltu â’n trigolion, ein partneriaid, ein busnesau a’n holl gynulleidfaoedd allweddol eraill.
Fel cyngor, rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau gwerth am arian o ansawdd uchel i drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae effeithiolrwydd y ffordd rydym yn cyflawni ein gweledigaeth yn dibynnu, i raddau helaeth, ar ansawdd ein cyfathrebu a’n hymgysylltu.
Gall pob agwedd ar ein cyfathrebu a’n hymgysylltu effeithio ar waith ac enw da y Cyngor. Mae’r strategaeth hon yn amlinellu’r dull gweithredu y byddwn yn ei ddefnyddio i sicrhau bod ein gweithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu yn addas at y diben ac yn helpu i gyflawni ein gweledigaeth.
Mae hefyd yn diffinio’r ffordd y byddwn ni fel sefydliad yn gwrando ar yr hyn y mae ein cynulleidfa yn ei ddweud wrthym ac yn ymateb iddo.
Mae’r strategaeth yn nodi egwyddorion o ran y modd y byddwn yn cyfathrebu’n agored ac yn dryloyw, mewn ffordd syml ac annhechnegol y bydd pobl yn gallu ei deall.
Mae hefyd yn nodi’r amrywiaeth o sianeli ac adnoddau cyfathrebu y byddwn yn eu defnyddio i sicrhau bod ein negeseuon allweddol yn cyrraedd cymaint o bobl â phosibl.
Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 2019-2022 (PDF)