Hysbysiad o Orffen Archwiliad o Gyfrifon 2021-22

Hysbysiad o Hawliau Cyhoeddus

Hysbysir drwy hyn, yn unol â Rheoliad 13 o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 ac Adran 29 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, y cyhoeddwyd barn archwilio ddiamod ar gyfer y sefydliad uchod, ac y gall unrhyw etholwr lleol, drwy gyflwyno cais i'r Is-adran Cyfrifeg, Cyfadran Gwasanaethau Corfforaethol, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG, archwilio, copïo neu gael cyfrifon ac adroddiadau archwilwyr y corff uchod, am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022, rhwng 9.30am a 12pm (bore Llun i fore Gwener), rhwng 2.00pm a 4.00pm (prynhawn Llun i brynhawn Iau) a rhwng 2.00pm a 3.30pm (prynhawn Gwener).

Er mwyn ein galluogi ni i wneud trefniadau priodol ar gyfer archwilio, rydyn ni’n gofyn i etholwyr drefnu apwyntiad drwy anfon e-bost at CorporateClosure@caerffili.gov.uk, drwy ffonio 01443 863245, neu drwy ysgrifennu at y Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a Swyddog Adran 151, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG.

Mae'r cyfrifon ac adroddiadau'r archwilwyr hefyd yn cael eu cadw ar ffurf electronig ar ein gwefan ni.

22 Ionawr 2023

Christina Harrhy
Prif Weithredwr,Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili,
Tŷ Penallta,
Parc Tredomen,
Ystrad Mynach,
Hengoed
CF82 7PG