FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Adroddiad Ymgynghoriad y Gyllideb 2017-18 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi wynebu ystod o doriadau sylweddol yn y gyllideb yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae angen cyflwyno amrywiaeth o doriadau i helpu i gyflawni arbedion sylweddol.

Mae cynigion arbedion Drafft ar gyfer 2017/18 yn dilyn egwyddorion allweddol y Cyngor i gyfyngu ar effaith y toriadau ar wasanaethau rheng flaen. Bydd y cynigion arbedion drafft ar gyfer 2017/18 yn dod i gyfanswm o £8.653 miliwn, ond ni fydd y mwyafrif llethol o'r rhain yn cael effaith ar drigolion. (Manylir ar gynigion drafft ar gyfer 2017/18 yn Atodiad 1 yr adroddiad

Mae'r gyllideb ddrafft yn cynnwys cynnydd arfaethedig o 1% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2017/18 sef yr un peth a'r llynedd. Byddai hyn yn cyfateb i gynnydd o 19 ceiniog yr wythnos ar gyfer eiddo Band D cyfartalog.

Ceisiwyd safbwyntiau trigolion a rhanddeiliaid ar y cynigion drafft.  Bydd pob barn yn cael ei fwydo'n ôl i, a'u hystyried gan, Aelodau etholedig cyn bydd y gyllideb derfynol ar gyfer 2017/18 yn cael ei chytuno mewn cyfarfod Cyngor Llawn ddydd Mercher 22 Chwefror 2017.

Dull (Beth wnaethom)

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar gyllideb y cyngor dros gyfnod o 6 wythnos o 5 Rhagfyr 2016 tan 14 Ionawr 2017.

Datblygwyd holiadur byr (Atodiad 2 yr adroddiad) i ofyn am farn ar y cynnig cyllideb drafft. Roedd yr holiadur ar gael ar wefan y cyngor ac fe'i hyrwyddwyd trwy gyfryngau cymdeithasol. Dosbarthwyd yr arolwg hefyd i amrywiaeth eang o randdeiliaid a grwpiau allweddol (fel yr amlinellir yn Atodiad 3 o'r adroddiad) drwy e-bost ac mewn fformat printiedig.

Canlyniadau

Cawsom gyfanswm o 41 o arolygon wedi'u cwblhau. Er gall y ffigur hwn ymddangos yn isel, yr oedd i'w ddisgwyl o ystyried "effaith isel" y rhestr o arbedion arfaethedig ar drigolion.

Yn gyffredinol, cafwyd ymateb cadarnhaol i'r cynigion a derbyniwyd bod y cyngor yn gwneud y gorau y gall o dan amgylchiadau anodd. Gellir gweld crynodeb llawn o sylwadau yn Atodiad 4 o'r adroddiad. Cyflwynwyd sylwadau am gyflog uwch-swyddogion fel rhan o adborth yr ymgynghoriad. Mae'r sylwadau hyn wedi eu nodi, ond nid ydynt yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad hwn oherwydd ymchwiliadau mewnol parhaus yr awdurdod.