Manyleb sgipiau

Adrannau 139 A 140 O Ddeddf Priffyrdd 1980
Rheoliadau Sgipiau Adeiladwyr (Marciau) 1984

Ynghyd â'r rheoliadau cyhoeddedig, rhaid i'r sgip sy'n cael ei osod hefyd fodloni'r amodau canlynol:

  • Bydd y sgip yn cael ei osod yn y lleoliad wedi'i nodi ar y cais a rhaid iddo gael ei osod ar y ffordd gerbydau oni bai bod cymeradwyaeth wahanol gan yr Arolygwr Priffyrdd.
  • Rhaid gosod y sgip yn unol ag unrhyw amodau arbennig wedi'u gosod gan yr Arolygydd Priffyrdd.
  • Ni fydd dimensiynau'r sgip yn fwy na 5m x 2m (16’6” x 6’6”).
  • Rhaid i'r sgip gael ei farcio'n barhaol gydag enw a rhif ffôn y perchennog, wedi ei baentio'n felyn llachar, gyda stribedau coch a melyn adlewyrchol ym mhob pen.
  • Dylai'r sgip gael ei warchod gan gonau a lampau wedi'u trefnu. Conau i fod ar ffurf esielon sy'n wynebu'r traffig sy'n dod tuag ato. Rhaid gosod y lampau ym mhob cornel ac ar y conau arweiniol.
  • Bydd unrhyw ollyngiad ar y briffordd yn cael ei glirio ar unwaith.
  • Rhaid i'r cwmni sgipiau ddal yswiriant atebolrwydd cyhoeddus/trydydd parti sydd werth £10M.