Sgip rheoliadau

Awdurdod i osod cynhwysydd ar ffyrdd yn y Fwrdeistref Sirol

  • Rhaid i bob cynhwysydd ar y briffordd gydymffurfio â'r fanyleb gyhoeddedig.
  • Rhaid peidio â gosod cynhwysydd ar linell sengl yn ystod oriau'r gwaharddiad nac ar linellau dwbl ar unrhyw adeg.
  • Rhaid peidio â gosod cynhwysydd o fewn y man gwaharddedig i naill ochr croesfan sebra neu groesfan belican.
  • Rhaid peidio â gosod cynhwysydd o fewn 83 metr i'r llinell stop wrth ddynesu at y goleuadau traffig.
  • Rhaid peidio â gosod cynhwysydd o fewn 17 metr i gyffordd ag enw.
  • Rhaid gosod cynhwysydd ar y safle yn unol â'r rheolau canlynol:
    • Rhaid ei osod o fewn cwrtil eiddo/adeiladau, lle bynnag y bo modd, heb ddifrodi na rhwystro'r llwybr troed.
    • Os yw'n cael ei osod ar y ffordd gerbydau, rhaid ei osod fel nad yw'n amharu ar ddraenio dŵr wyneb, ac er mwyn lleihau'r rhwystr i draffig; yr awgrym yw pellter o 150mm o'r cwrb.
    • Ni fydd yn cael ei osod fel ei fod yn rhwystro mynediad i unrhyw dwll archwilio, hydrant tân neu gyfarpar unrhyw ymgymerwr statudol neu'r Cyngor.
  • Rhaid peidio â gosod cynhwysydd ar unrhyw ffordd gerbydau neu ffordd gefn sydd â lled o 5 metr neu lai.
  • Rhaid peidio â gadael cynhwysydd ar y briffordd am gyfnod hwy nag sy'n angenrheidiol. A bydd yn cael ei symud o'r briffordd beth bynnag, neu ei ail-leoli os bydd angen hynny ar yr heddlu neu gynrychiolydd dynodedig y Gwasanaethau Technegol.
  • Rhaid symud pob cynhwysydd o'r briffordd cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl ei lenwi.
  • Yn ystod y defnydd ohono, bydd cynnwys y cynhwysydd yn cael ei wlychu i atal niwsans yn sgil llwch a bydd unrhyw ollyngiad ar y briffordd yn cael ei glirio ar unwaith.
  • Rhaid peidio â defnyddio'r cynhwysydd ar gyfer dyddodi deunyddiau pydredig, gwenwynig neu dramgwyddus.
  • Rhaid cyflwyno pob cais erbyn 12.00pm, 48 awr cyn yr amser arfaethedig ar gyfer gosod y sgip.
  • Er mwyn gosod sgip ar y briffordd, rhaid i chi gael Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus sydd werth £10 miliwn.
  • Bydd y Cwmni Llogi Sgipiau yn gyfrifol am symud yr holl ddeunyddiau wedi'u rhoi mewn unrhyw gynhwysydd, boed gennych chi, eich gweision neu asiantiaid, neu unrhyw berson gydag awdurdod neu hebddo, a chael gwared arnyn nhw'n briodol.
  • Bydd y Cwmni Llogi Sgipau yn cytuno i indemnio'r Gorfforaeth rhag unrhyw atebolrwydd, colled, hawliad neu achos o gwbl sy'n codi o dan gyfraith statud neu gyfraith gyffredin mewn perthynas â gosod a chadw unrhyw gynhwysydd ar unrhyw briffordd, neu ei symud oddi yno.
  • Ni fydd dim yn y llythyr o awdurdod hwn na'r amodau hyn yn effeithio ar bwerau'r heddlu, nac yn lleihau pwerau'r heddlu, i fynnu symud unrhyw gynhwysydd wedi'i osod ar y briffordd yn unol â'r awdurdod hwn.