Cymeradwyo mangre ar gyfer seremonïau priodas neu bartneriaeth sifil
I gynnal seremonïau partneriaeth sifil neu briodas mewn mangreoedd yng Nghymru neu Loegr, rhaid iddynt gael eu cymeradwyo.
Meini prawf cymhwysedd
Rhaid eich bod yn berchennog neu’n un o’r ymddiriedolwyr ar y fangre er mwyn gwneud cais am ganiatâd i gynnal seremonïau partneriaeth sifil neu briodasau.
Rhaid i’r cais fod yn ysgrifenedig (gan gynnwys trwy fodd electronig) a chynnwys:
- enw a chyfeiriad yr ymgeisydd
- unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod lleol
- cynllun o’r fangre sy’n nodi’n glir yr ystafell neu’r ystafelloedd lle cynhelir y gweithgareddau
Amodau’r drwydded
Amodau’r Drwydded – Cymeradwyo Mangre ar gyfer Priodasau a Phartneriaethau Sifil (PDF 119kb)
Ffioedd
Cliciwch yma i weld rhestr lawn o’r ffioedd trwyddedau
Sut i wneud cais
Yn awr gallwch wneud cais ar lein.
Gwneud cais am gymeradwyo mangre fel lleoliad ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil
Dweud wrthym am newid i’ch amgylchiadau presennol
Cydsyniad mud
Os nad ydych wedi clywed gennym ymhen 2 fis gallwch weithredu fel pe bai’ch cais wedi cael ei gymeradwyo. Mae’r cyfnod yn dechrau pan ddaw’r holl ddogfennau i law a phan gaiff y ffi berthnasol ei thalu.