Arolygiadau hylendid bwyd
Mae gennym raglen o ymyriadau rheolaidd yn ymwneud â busnesau bwyd ym mwrdeistref sirol Caerffili o stondinau marchnad a siopau cornel i archfarchnadoedd mawr a gwneuthurwyr mawr. Mae’r ymyriadau hyn yn sicrhau bod y busnesau hyn yn cyflawni safonau uchel o ran trin a chadw bwyd.
Beth sy’n digwydd yn ystod ymweliad arolwg?
Mae gennym hawl i fynd i mewn ac arolygu busnes bwyd ar unrhyw adeg resymol. Nid oes angen i ni wneud apwyntiad ac rydym fel arfer yn ymweld heb roi rhybudd ymlaen llaw.
Byddwn yn cydymffurfio ag arferion trin bwyd, monitro tymereddau bwydydd, archwilio cofnodion ac arolygu’r strwythur. Efallai y byddwn hefyd yn cymryd samplau o fwydydd os ydym yn amau eu bod yn anniogel ac yn cymryd lluniau. Bydd yr arolwg yn canolbwyntio ar y system rheoli diogelwch bwyd a fydd yn cael ei chymharu ag arferion gwirioneddol sy’n digwydd yn y safle.
Byddwn yn asesu’r glendid cyffredinol ynghyd â safon yr offer a’r gosodiadau, ardaloedd paratoi, ardaloedd cadw, man glanweithiol ac ystafelloedd newid staff. Caiff tystiolaeth o reoli llygredd a gwaredu sbwriel yn gywir hefyd ei harchwilio a bydd aelodau o staff yn cael eu cwestiynu ynghylch yr hyn maen nhw’n ei wneud yn y gwaith.
Ar ôl cwblhau'r arolwg
Byddwn yn trafod y darganfyddiadau gyda’r person â chyfrifoldeb. Yna caiff adroddiad yr arolwg ei anfon at weithredwr y busnes bwyd a fydd yn nodi sgôr hylendid bwyd y busnes (os ydyw o fewn cwmpas y cynllun). Bydd yr adroddiad yn nodi’r gofynion statudol hynny nas cydymffurfir â hwy a pha gamau y mae’n rhaid eu cymryd i gydymffurfio â’r gyfraith. Hefyd, efallai y cynigir cyngor ar arfer da.
Pan nad yw arferion neu amodau yn foddhaol, gwneir pob ymdrech i ddatrys y sefyllfa drwy ddulliau anffurfiol, ond os bydd amodau gwael yn parhau, neu os bydd risg i iechyd y cyhoedd efallai y bydd angen cymryd camau ffurfiol.
Ail-ymweliadau
Mae rhai arolygiadau'n datgelu bod angen gwneud gwaith er mwyn i safonau gydymffurfio â'r gofyniad cyfreithiol. Bydd angen cynnal un ymweliad neu mewn rhai achosion sawl ymweliad i sicrhau bod y gwaith adfer yn cael ei gwblhau.
Pa mor aml mae busnesau'n cael eu harolygu?
Mae amlder ein hymweliadau yn dibynnu ar:
- Y math o fwyd sy’n cael ei drin
- Y bobl mewn perygl
- Sut mae’r busnes yn cael ei reoli
- Cyflwr y safle
- Unrhyw gwynion yr ydym wedi’u derbyn
Dylai'r safleoedd hynny sy'n peri'r risg fwyaf i ddefnyddwyr gael eu harolygu'n amlach na'r safleoedd hynny â llai o risg.
Caiff safleoedd bwyd eu harolygu o bob chwe mis i bob 3 blynedd. Ond gallwn gynnal arolygiadau'n amlach os ydym o'r farn bod hynny’n briodol.
Weithiau caiff arolygiadau eu cynnal yn dilyn cwynion gan ddefnyddwyr ac ynghylch hylendid.