Grant Datblygu Masnach Ryngwladol

Mae’r Grant Datblygu Masnach Ryngwladol yn darparu cymorth ariannol wedi’i dargedu i fentrau newydd a phresennol ledled y Fwrdeistref Sirol i helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i ail-lansio neu ddatblygu eu galluoedd mewnforio/allforio a thyfu i helpu sbarduno adferiad economaidd Cymru.

Nod y Grant Datblygu Masnach Ryngwladol yw cynorthwyo amrywiaeth eang o weithgareddau datblygu gyda ffocws ar helpu mentrau i gyflawni eu huchelgeisiau busnes hirdymor drwy allbynnau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol mesuradwy a fydd yn ychwanegu gwerth at eu gweithrediadau drwy wella eu galluoedd cynhyrchu, gwasanaethu ac allbynnu.

Bydd pob cais yn cael ei asesu gan swyddogion fesul achos i benderfynu ar waith cymwys. Bydd ymgeiswyr yn gallu gwneud cais am gymorth tuag at weithgaredd refeniw o dan “themâu” ariannu penodol. Gall eitemau cymwys gynnwys:

  • Hyfforddiant.
  • Cyhoeddiadau/tanysgrifiadau.
  • Ardystiadau/achrediadau.
  • Marchnata tramor. (Bydd pob achos yn cael ei asesu fesul achos)
  • Ymweld â ffeiriau ac arddangosfeydd masnach. (Bydd pob achos yn cael ei asesu fesul achos) 

Pwy all wneud cais?

Mae'r Gronfa'n agored i fusnesau presennol a busnesau newydd ym mhob sector; mentrau micro, bach a chanolig; grwpiau cymunedol neu fentrau cymdeithasol sefydledig; unig fasnachwyr; partneriaethau; cwmnïau cyfyngedig; busnesau cymunedol, cwmnïau cydweithredol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Faint o gyllid sydd ar gael?

Datblygu Busnes a Chymorth i Fusnesau (Refeniw) – Bydd y grant ar gyfer y thema hon yn uchafswm o 50% o gostau cymwys rhesymol, hyd at uchafswm grant o £2,000 heb gynnwys TAW (os yw'n berthnasol). Bydd pob cais yn cael ei ystyried ar sail ei amgylchiadau penodol.

Mae pob grant yn ôl disgresiwn y Cyngor ac yn amodol ar gyllideb sydd ar gael. Bydd swm y grant sy'n cael ei gynnig yn cael ei asesu ar sail prosiect unigol, gan ystyried y buddion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol sy'n codi. Mae dyraniad cyfyngedig o arian grant a bydd yn cael ei ddyfarnu ar sail gystadleuol.

Cyswllt

I gael gwybodaeth am y grant, cysylltwch â’n Swyddog Cymorth Masnach Ryngwladol: Sarah Gaze gazesl@caerffili.gov.uk

Cysylltwch â ni

Ar y we yn gyffredinol

Cyllid Cymru | Cronfeydd yr UE yng Nghymru