FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00am a 8:00am ar y 05 Mai 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00am and 8:00am on the 05 May 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Clwb Bowls Dan Do Islwyn

Islwyn Bowls CentreMae'r Ganolfan yn cynnig un o'r cyfleusterau bowls dan do gorau yng Nghymru gydag 8 arena ac ardal wylio helaeth. Mae'r Ganolfan hefyd yn cynnig cyfleusterau bwyta o'r radd flaenaf.

Mae'r clwb ar agor drwy gydol y flwyddyn ac yn ystod y tymor dan do (Medi i Ebrill) rydyn ni’n cynnal sawl cystadleuaeth cynghrair yn ogystal â chystadlaethau clwb mewnol eraill.

Os ydych chi’n chwaraewr bowls profiadol neu'n ddechreuwr, rydyn ni’n hyderus y bydd y clwb yn addas ar gyfer eich holl anghenion.

Mae croeso i bobl sydd ddim yn aelodau gyda 2 arena ar gael – mae modd llogi esgidiau a bowls ac mae modd trefnu hyfforddiant sylfaenol. Beth am roi cynnig arni?

Mae'r Ganolfan yn falch iawn o'i adran iau, gyda nifer ohonyn nhw wedi derbyn capiau Cymreig. Yn ystod y tymor dan do rydyn ni’n cynnig hyfforddiant ieuenctid bob dydd Sadwrn yn dechrau am 10am.

Gallwch chi hefyd llogi'r Ganolfan am briodasau ac achlysuron. Mae digon o le i 150 o bobl yn yr ystafell Islwyn.

Mae maes parcio helaeth ar gael ac mae'r holl gyfleusterau ar yr un lefel.

Ffoniwch ni ar 01495 221321 i drafod argaeledd a phrisiau llogi.