Dyddiad : 04 Mai 2024 9:00am
Lleoliad : Canol Tref Bargod
Dydd Sadwrn 4 Mai 2024, 9am - 5pm
Ar ôl ymddangos yn llwyddiannus am y tro cyntaf yn 2023, mae Ffair Fai Bargod YN ÔL ar gyfer 2024!
Mae'r gwanwyn eisoes wedi cyrraedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ac rydyn ni'n parhau i gadw pethau'n mynd yn dda gyda Ffair Fai, Bargod!
Gydag amrywiaeth o stondinau yn llawn busnesau bach anhygoel, adloniant cyffrous a reidiau ffair ffantastig, mae Ffair Fai, Bargod, yn addo rhoi hwb mawr i Fargod!
Dewch draw ar ddydd Sadwrn 4 Mai am ddiwrnod llawn hwyl a sbri, a chyfle i gefnogi'r dref, y stryd fawr a busnesau lleol!
Edrychwch ar dudalen y digwyddiad ar Facebook, yma.
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
I gael rhagor o wybodaeth am y farchnad, gan gynnwys y rhaglen adloniant, stondinau a fydd yn bresennol a'r ffyrdd a fydd ar gau, ewch i www.visitcaerphilly.com/cy/events.
Mae’r digwyddiad hwn yn cynorthwyo #DewisLleol i roi hwb ac ennyn cefnogaeth i fusnesau lleol.
Ariennir y digwyddiad hwn ar y cyd gan Gyngor Tref Bargod a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. #UKSPF