I-Care

1-3 Victoria House, Cwmbrân NP44 3JS
Ffôn: 01633 862852
E-bost: Laura.Harris@icaredomcare.co.uk

Adroddiad Monitro Contract

  • Adroddiad Monitro Contract : I-Care
  • Dyddiad ymweliad(au): 16 Mai 2023
  • Swyddog ymweld: Ceri Williams - Contract Monitoring Officer CCBC
  • Yn bresennol: Laura Harris – Laura Harris – Rheolwr Cofrestredig

Mae I-Care yn ddarparwr gofal cartref cofrestredig sy'n darparu gofal a chymorth i unigolion yn eu cartrefi eu hunain.

Dyma’r ymweliad monitro cyntaf i’w gynnal â’r darparwr ers pandemig COVID-19.

Gan ddibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, bydd camau unioni a datblygiadol i I-Care i'w cwblhau. Camau unioni yw’r rhai mae'n rhaid eu cwblhau (yn unol â deddfwriaeth ac ati), ac argymhellion arfer da yw camau datblygiadol.

Canfyddiadau'r Ymweliad

Darparu Gwasanaethau

Cafodd cofnodion monitro ymweliadau eu gweld ar gyfer dau gleient a'u cymharu â’r amseroedd wedi'u trefnu.  Roedd y cofnodion yn dangos bod ymweliadau'n digwydd o fewn 30 munud i'r amseroedd ymweliadau wedi'u trefnu, gyda'r mwyafrif o ymweliadau'n digwydd o fewn 15 munud i'r amseroedd ymweliadau wedi'u trefnu.

Roedd parhad gofalwyr ar gyfer y ddau becyn yn rhagorol ac ymhell o fewn y trothwy parhad yn y contract.

Roedd monitro ymweliadau electronig hefyd yn dangos bod staff yn aros am yr amser cywir ar gyfer ymweliadau gofal wedi'u comisiynu.

Cafodd rota staff ei gweld fel rhan o'r broses monitro.   Roedd y rota'n dangos bod digon o amser teithio wedi'i gynnwys yn y rota i ganiatáu amser i ofalwyr deithio o un ymweliad i'r llall.

Mae I-Care yn defnyddio system cynllunio gofal gyfrifiadurol o'r enw Access Care Planning. Mae'r system yn cadw manylion, cynlluniau gofal, ymweliadau gofal sy'n eu hangen ar bob unigolyn a hefyd yn gweithredu fel system monitro ymweliadau. 

Mae'r system yn cael ei monitro gan dîm monitro ymweliadau penodol ym mhrif swyddfa'r cwmni yn Abertawe.  Bydd y system yn rhoi rhybudd ar ôl 15 munud o ymweliad yn mynd dros yr amser wedi'i drefnu a, bryd hynny, bydd y tîm yn cysylltu â'r gofalwr yn gyntaf.  Os bydd y gofalwr yn methu ag ymateb, bydd y tîm wedyn yn cysylltu â'r gangen ardal neu ar alwad os yw y tu allan i oriau.

Mae staff gofal yn gallu gweld holl fanylion cynlluniau gofal a thasgau sydd eu hangen yn ystod yr ymweliadau ar ap ar eu ffonau symudol sydd hefyd yn caniatáu ar gyfer cofnodi cofnodion dyddiol. 

Proses Cynllunio Gofal a Gwasanaeth

Cafodd ffeiliau dau gleient eu gweld yn ystod yr ymweliad monitro.  Roedd ffeiliau'r ddau gleient yn cynnwys Cynllun Gofal a Chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.   Roedd yr holl anghenion a nodwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a chynlluniau gofal a chymorth wedi cael eu cynnwys ar gynlluniau personol I-Care.

Roedd cynlluniau personol yn fanwl ac yn cynnwys anghenion gofal a chymorth, cyflyrau meddygol, y canlyniadau i'w cyflawni ac yr hyn sy'n gallu cael eu cyflawni'n annibynnol gan yr unigolyn.

Roedd dogfen cynllun gofal dyddiol hefyd ar ffeil, a oedd yn cynnwys rhagor o fanylion am ymweliadau gofal dyddiol, yr hyn oedd ei angen ar gyfer bob ymweliad ac a oedd yn cynnwys hoffterau/cas bethau a threfnau'r unigolion.

Ar y cyfan, roedd cynlluniau personol yn cynnwys digon o fanylion i staff gofal ar sut i gynorthwyo unigolion a sut mae eu cyflyrau meddygol yn gallu effeithio ar eu gallu i gyflawni tasgau'n annibynnol.  Gallai un o'r cynlluniau personol gynnwys mwy o wybodaeth am faes cymorth penodol wedi'i nodi a chafodd hyn ei drafod gyda'r rheolwr.

Roedd gwybodaeth am hanes bywyd hefyd wedi'i chynnwys yn y dogfennau cynllunio gofal.

Roedd asesiadau risg addas ar waith yn y ddwy ffeil a gafodd eu gweld ac roedden nhw’n disgrifio’n gywir y risgiau ynglŷn â darparu gofal a chymorth a'r camau i'w cymryd pe bai'r risg yn digwydd.

Mae cynlluniau personol i gyd yn cael eu cynnal yn ddigidol ac, er eu bod wedi'u llofnodi a'u dyddio gan y darparwr, nid oedd yr unigolyn wedi'u llofnodi ac nid oedd unrhyw dystiolaeth arall bod yr unigolyn yn cymryd rhan yn y broses cynllunio gofal.

Mae cofnodion dyddiol yn cael eu casglu yn electronig gan ddefnyddio'r ap.  Mae hyn yn rhoi tystiolaeth ddigidol o'r dyddiad, amser yr ymweliad ac enw'r aelod o staff.  Mae cofnodion dyddiol ar gael i'w weld ar sgrin neu mae adroddiad ar gael i'w hargraffu. 

Cafodd adroddiadau cofnodion dyddiol eu darparu i'r swyddog monitro yn yr ymweliad.  Roedden nhw'n dangos safon dda o gofnodi, gyda phob tasg gofal a chymorth yn cael ei chwblhau, a sylwadau cyffredinol ar les cyffredinol yr unigolyn yn ystod yr ymweliad.

Roedd adolygiadau o gynlluniau personol ac asesiadau risg yn y ffeiliau yn cael eu cynnal o fewn yr amserlenni angenrheidiol sydd wedi'u nodi mewn deddfwriaeth.

Roedd adolygiadau yn ystyrlon ac yn cynnwys yr unigolyn a oedd yn derbyn gofal a chymorth neu gynrychiolydd. 

Roedd adolygiadau hefyd yn cynnwys camau gweithredu i'w dilyn yn dilyn yr adolygiad.

Recriwtio, hyfforddi a goruchwylio

Cafodd ffeiliau dau aelod o staff eu gweld; roedden nhw'n cynnwys gwybodaeth ofynnol fel ffurflen gais fanwl, cofnod o gyfweliad gan gynnwys sgorio a chontractau cyflogaeth wedi'u llofnodi.

Roedd y ddwy ffeil yn cynnwys tystiolaeth o eirdaon gan gyflogwyr blaenorol.

Roedd copïau o ddogfennau yn cadarnhau hunaniaeth yr aelodau o staff ar y ddwy ffeil a ffotograffau diweddar yn bresennol.

Mae ceisiadau am wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cael eu gwneud ac mae tystiolaeth eu bod nhw'n cael eu derbyn yn foddhaol wedi'i chadw ar ffeil. 

Mae hapwiriadau staff yn cael eu cynnal bob tri mis ac maen nhw'n cynnwys prydlondeb, cod gwisg, cyfathrebu, darparu gwasanaeth, ac unrhyw gamau gweithredu pellach sy'n cael eu nodi gan yr hapwiriad. Mae gwaith papur hapwiriad yn cael ei lofnodi gan yr aelod o staff a'r goruchwyliwr.

Mae matrics hyfforddi wedi cael ei ddarparu a oedd yn dangos bod y staff yn gyfarwydd â'r holl hyfforddiant gorfodol a'r cyrsiau gloywi diweddaraf.

Mae matrics goruchwylio hefyd wedi cael ei ddarparu yn ystod yr ymweliad monitro a oedd yn dangos bod y staff i gyd yn ymwybodol o'r sesiynau goruchwylio diweddaraf o fewn yr amserlenni sydd wedi'u nodi yn y rheoliadau.

Roedd y staff hefyd wedi derbyn gwerthusiadau blynyddol.   

Sicrwydd Ansawdd

Cafodd copi diweddaraf o'r adroddiad sicrwydd ansawdd sy’n digwydd ddwywaith y flwyddyn ei ddarparu, yn ddyddiedig Chwefror 2023.

Tystiodd yr adroddiad fod unigolion, ar y cyfan, yn fodlon â'r gwasanaeth y mae I-Care yn ei gynnig.

Eglurodd yr unigolyn cyfrifol, er bod rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ymweld a monitro'r gwasanaeth a ddarperir gan y gangen yn chwarterol, mewn gwirionedd mae hyn yn cael ei wneud bob mis, yn amlach nag sy'n ofynnol yn ôl y rheoliadau.

Mae rheolwr y gangen yn paratoi adroddiad misol ar gyfer yr unigolyn cyfrifol. Yna, maen nhw'n cyfarfod i drafod yr adroddiad ac mae’r unigolyn cyfrifol yn dyfeisio cynllun gweithredu misol.

Cafodd yr adroddiadau misol a'r cynlluniau gweithredu eu darparu i'r swyddog monitro. Roedd tystiolaeth o oruchwyliaeth ac arweinyddiaeth dda o fewn y gangen ac roedden nhw'n cwmpasu ystod eang o feysydd sy'n monitro perfformiad y gwasanaeth.

Fodd bynnag, nid oedd yr adroddiadau'n cynnwys adborth gan aelodau o staff neu unigolion sy'n derbyn gwasanaeth fel sydd yn cael eu nodi yn y rheoliadau, a dylai'r adborth hwn yn cael ei gynnwys yn yr adroddiadau o leiaf bob tri mis.

Cysylltwyd â nifer o unigolion sy'n derbyn gwasanaeth, neu eu cynrychiolwyr, fel rhan o'r broses fonitro.

Roedd yr holl adborth yn gadarnhaol.  Dywedodd pobl fod y gwasanaeth roedden nhw'n ei gael yn dda iawn gyda gofalwyr rheolaidd sydd wedi meithrin perthynas dda â'r unigolion y maen nhw'n eu cynorthwyo.

Roedd yr adborth hefyd yn gadarnhaol os oedd yn rhaid i bobl gysylltu â'r swyddfa am unrhyw reswm a chanfod bod staff y swyddfa yn gymwynasgar ac yn ymatebol.

Camau Unioni / Datblygiadol

Camau Unioni

Unigolyn cyfrifol. Adroddiadau i gynnwys adborth gan unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth a'u cynrychiolwyr (os yw'n berthnasol) a staff, o leiaf bob tri mis.  (Rheoliad 73, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016).

Bydd unrhyw hysbysiadau rheoliad 60 wedi'u cyflwyno i'r rheolydd hefyd yn cael eu hanfon at dîm Comisiynu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.  (Contractau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili).

Camau datblygiadol

Ni chafodd unrhyw gamau datblygiadol eu nodi yn ystod yr ymweliad hwn.

Casgliad

Ar y cyfan, roedd yr ymweliad monitro â'r darparwr yn gadarnhaol.  Roedd yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani wedi'i darparu ac roedd yn drefnus. Braf oedd derbyn adborth da gan unigolion sy’n derbyn y gwasanaeth yn y gymuned a bod ganddyn nhw berthynas dda gyda gofalwyr sy’n eu cynorthwyo. Hoffai'r Swyddog Monitro Contractau ddiolch i staff I-Care am eu hamser a'u croeso yn ystod yr ymweliad. 

  • Author: Ceri Williams
  • Designation: Swyddog Monitro Contractau
  • Date: 26/06/2023