FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00am a 8:00am ar y 05 Mai 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00am and 8:00am on the 05 May 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Grwpiau cerddoriaeth

Os bydd eich athro offerynnol o'r farn y byddwch yn elwa o ymuno â grŵp cerddoriaeth, neu os ydych yn hoffi canu, dyma'ch cyfle i gael hyfforddiant proffesiynol am ddim gan diwtoriaid Gwasanaeth Cerdd Caerffili.

Yn ogystal â datblygu eich sgiliau cerddorol fel rhan o grŵp, byddwch yn cael hwyl ac yn gwneud ffrindiau newydd ar yr un pryd.

Mae'r grwpiau canlynol yn cyfarfod bob wythnos: -

Dydd Llun

  • Band Mawr Caerffili,  4.30pm – 6.30pm yn Ysgol Gyfun Lewis i Ferched

Dydd Mawrth

  • Ensemble Taro, 3.30pm - 4.30pm yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Trelyn, Coed Duon

Dydd Mercher

  • Band Roc, 4.15pm – 5.15pm yn Ysgol Gyfun Lewis i Ferched, Ystrad Mynach

Dydd Iau

Mae'r grwpiau canlynol yn cwrdd o 4.30pm i 6.30pm yn Ysgol Gyfun Lewis i Ferched, Ystrad Mynach.

  • Ensemble Pres
  • Llinynnau Sylfaenol
  • Cerddorfa Iau
  • Band Chwyth Iau
  • Cerddorfa Hŷn
  • Llinynnau Hŷn
  • Band Chwyth Hŷn
  • Clwb Llinynnau 

Y rhif ffôn argyfwng ar gyfer pob grŵp yw 07701020198.