FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00am a 8:00am ar y 05 Mai 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00am and 8:00am on the 05 May 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Dysgu sut i chwarae offeryn

Os hoffech ddysgu sut i chwarae offeryn cerdd, pa offeryn yr hoffech chi ei chwarae?

Ceisiwch feddwl am ychydig o syniadau rhag ofn nad yw eich dewis cyntaf ar gael ar unwaith. Mae Gwasanaeth Cerdd Caerffili yn cynnig pob math o wersi gan gynnwys offerynnau pres, chwyth, llinynnol a tharo. 

Cofiwch fod eich llais yn offeryn hefyd, felly efallai yr hoffech feddwl am wersi canu.

Gall plant sy'n mynd i ysgol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili fenthyg offeryn am ddim (yn amodol ar argaeledd) a chael gwersi am ddim (gall rhai ysgolion godi ffi fach).

Trafodwch eich syniadau gyda'r athro dosbarth neu athro cerdd. Byddant yn gwybod sut i'ch rhoi ar ben y ffordd.

Unwaith y byddwch wedi cychwyn arni, bydd angen i chi neilltuo amser i ymarfer yn rheolaidd. Yn nes ymlaen bydd cyfle i chi ymuno â bandiau, cerddorfeydd a bandiau roc.

Gall chwarae cerddoriaeth helpu i ddatblygu sgiliau canolbwyntio, gweithio mewn tîm a chymdeithasol.

Os ydych yn mynd i ysgol ym mwrdeistref sirol Caerffili ac mae gennych ddiddordeb mewn dysgu sut i chwarae offeryn cerdd, gallwch chi neu'ch rhieni gysylltu â Gwasanaeth Cerdd Caerffili i gael rhagor o fanylion.