FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00am a 8:00am ar y 05 Mai 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00am and 8:00am on the 05 May 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Tirweddau hanesyddol

Mae gwaith dyn yn cael effaith sylweddol ar ein tirweddau hanesyddol. Mae patrymau anheddiad, rhwydweithiau ffyrdd, tir diwydiannol, parcdir, henebion a mannau claddu yn enghreifftiau o hyn.

 

Mae’r dirwedd yn rhan annatod o’r amgylchedd hanesyddol, ynghyd â safleoedd archeolegol a hanesyddol, henebion ac adeiladau hanesyddol. Yn draddodiadol, mae cadwraeth yr amgylchedd hanesyddol wedi canolbwyntio ar gadw safleoedd, adeiladau neu ardaloedd dynodedig unigol. Fodd bynnag, mae hyn wedi golygu nas rhoddwyd cydnabyddiaeth ddigonol i lawer o agweddau ar yr amgylchedd hanesyddol, ac nid yw’r agweddau hynny wedi’u gwerthfawrogi na’u hystyried yn ddigonol wrth lunio polisïau a gwneud penderfyniadau.

Mae Comin Gelligaer yn dirwedd hanesyddol ym mwrdeistref sirol Caerffili.

Cysylltwch â ni
  • Cyfeiriad E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad