Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai
Mae Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai yn nodi cynlluniau incwm a gwariant ar gyfer Cartrefi Caerffili, ei wasanaeth tai, dros y flwyddyn ariannol nesaf.
Yn ogstal â’i gynllun busnes, mae’r ddogfen hefyd yn darparu naratif manwl sy’n amlinellu cyflawniadau Cartrefi Caerffili dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r cynllun hefyd yn manylu ar flaenoriaethau Cartrefi Caerffili ar gyfer y tair blynedd nesaf.
Bydd gweledigaeth Cartrefi Caerffili y:
‘Darparu gwasanaeth rhagorol o ansawdd uchel i holl gwsmeriaid Cartrefi Caerffili.’
Dyma genhadaeth y tîm:
‘Bydd Cartrefi Caerffili yn cynorthwyo pob cwsmer yn deg ac yn dryloyw. Cynnal a chadw pob cartref gyda gwasanaeth ymatebol a phroffesiynol o ansawdd uchel. Meithrin perthnasoedd newydd â chwsmeriaid presennol a chwsmeriaid newydd, gan ddatblygu cartrefi newydd a chymunedau â chartrefi carbon isel, cost isel, ar hyn o bryd ac i’r dyfodol. Byddwn ni’n dod o hyd i atebion i’r rhai sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, gan weithio gyda landlordiaid cyhoeddus a phreifat eraill ledled y Fwrdeistref Sirol i ddarparu mwy o gyfleoedd i bawb, beth bynnag fo’r angen.’
Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 2023 - 24 (pdf)