FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00am a 8:00am ar y 05 Mai 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00am and 8:00am on the 05 May 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Cymorth i brynu cartref

Mae'r adran hon yn rhoi gwybodaeth i bobl a fydd efallai angen cymorth i brynu cartref.

Mae'n bosibl y bydd cymorth ar gael gan un o'r sefydliadau canlynol:

Llywodraeth Cymru

  • Rhanberchnogaeth – Cymru: Prynu cyfran gychwynnol o rhwng 25% a 75% o eiddo a thalu rhent ar y gyfran sy'n weddill.
  • Cymorth i Brynu – Cymru: Cynllun benthyciadau ecwiti a rennir ar gyfer cartrefi gwerth hyd at £300,000 o Ebrill 1 2023 ymlaen. Mae'r cynllun hwn ar gyfer pobl sy'n prynu cartref am y tro cyntaf a'r rhai hynny sy'n symud tŷ – cyhyd â bod ganddyn nhw flaendal sy'n 5% o werth yr eiddo.
  • Prynu Cartref – Cymru: Cynllun benthyciadau ecwiti o rhwng 30% a 50% ar gyfer y rheini sy'n bodloni meini prawf penodol i brynu eiddo.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Cynlluniau cymorth i brynu cartref.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

  • Rhannu Ecwiti – Prynwch gyfran o'ch cartref gyda'r rhan sy'n weddill yn cael ei gadw gan y Cyngor.
  • Rhanberchnogaeth – Prynu cyfran gychwynnol o rhwng 25% a 75% o eiddo a thalu rhent ar y gyfran sy'n weddill.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: Polisi perchentyaeth cost isel 2022

Cymdeithasau Tai

  • Rhannu Ecwiti – Prynwch gyfran o'ch cartref gyda'r gymdeithas tai yn cadw'r gyfran sy'n weddill.
  • Rhanberchnogaeth – Prynu cyfran gychwynnol o rhwng 25% a 75% o eiddo a thalu rhent ar y gyfran sy'n weddill.

Am ragor o wybodaeth am ddatblygiadau unigol, cysylltwch â'r gymdeithas dai yn uniongyrchol gan ddefnyddio'r manylion isod:

Gwneud cais

I wneud cais am gymorth i brynu cartref, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar-lein ar wefan Canfod Cartref Caerffili. I gael cymorth o ran llenwi'r ffurflen, ffoniwch 01443 873521 neu anfon e-bost i CofrestrTaiCyffredin@caerffili.gov.uk.
 
Am ragor o wybodaeth am brynu eich cartref eich hun, ffoniwch 01443 863121 neu anfon e-bost i StrategaethADatblygu@caerffili.gov.uk

Cysylltwch â ni