LLEAD (Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Leol ar Gŵn)

700x290px_LEAD_banner.jpg

Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i fod yn berchnogion cŵn cyfrifol.

Mae LEAD (Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Leol ar Gŵn), yn ceisio rhoi cyngor i'r cyhoedd ar faterion sy'n ymwneud â chŵn, yn ogystal â gwella diogelwch a lles cŵn.

Hefyd, bydd yn helpu delio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anystyriol gan unigolion sydd â chŵn mewn ffordd sy'n amddiffyn aelodau’r cyhoedd ac yn tawelu eu meddwl.

Bydd menter LEAD yn galluogi partneriaid i rannu gwybodaeth a gweithredu amrywiaeth o fesurau megis llythyrau rhybuddio, contractau ymddygiad derbyniol ac, yn y pen draw, camau gorfodi os yw hynny'n briodol. 

Mae’r fenter yn targedu pob perchennog ci yn ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili, p'un a ydych chi'n byw mewn llety preifat neu lety rhent. Mae’r gwaith hwn yn cael ei hyrwyddo drwy ymgysylltu â pherchnogion cŵn yn ystod patrolau rheolaidd a thrwy gyswllt o ddydd i ddydd â pherchnogion cŵn sy’n dod i sylw asiantaeth.

Rydyn ni: -

  • yn cofnodi pob digwyddiad sy'n ymwneud ag ymddygiad negyddol cŵn, gan gynnwys ymosodiadau gan gŵn ar bobl ac anifeiliaid, lles cŵn a baw cŵn. Mae hyn yn bwysig er mwyn creu hanes wedi'i ddogfennu pe bai angen cymryd camau gorfodi.
  • Annog perchnogion (os ydyn nhw'n byw mewn tŷ cymdeithasol) i gofrestru eu ci gyda'u landlord. 

Pan fydd angen i'r Heddlu ymyrryd

Yn ogystal ag annog perchnogaeth cŵn cyfrifol a rhoi cyngor, mae yna adegau pan fydd angen i'r heddlu ymyrryd, cyflwyno mesurau rheoli ac, yn y pen draw, erlyn troseddwyr.

Byddwn ni'n ymyrryd yn achos y canlynol:

  • perchnogion yn defnyddio cŵn i gyflawni trosedd.
  • cyswllt rhwng cŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • mathau/bridiau gwaharddedig yn dod i sylw.
  • Mesurau rheoli, cosbau a deddfwriaeth. 

Byddwn ni'n gweithredu i orfodi'r gyfraith ac amddiffyn y cyhoedd pan fo angen a lle mae deddfwriaeth yn caniatáu hynny. Mae'r mesurau yn cynnwys:

Llythyr rhybudd cyntaf

Bydd hyn yn cynnwys manylion allweddol y digwyddiad - manylion a fydd yn cael eu rhannu â phartneriaid perthnasol.

Byddwn ni'n anfon llythyrau gyda llenyddiaeth ategol.

Llythyr rhybudd olaf

Os bydd ymddygiad y ci yn dod i sylw eto, bydd ail lythyr yn cael ei  ddosbarthu â llaw gan y Tîm Plismona Cymdogaeth lleol. Ar y cam hwn, bydd perchennog y ci yn cael cyfle i dderbyn cynnig o gwrs addysgol i wella ei ddealltwriaeth o berchnogaeth cŵn cyfrifol.

Os yw perchennog y ci yn ddeiliad contract gyda landlord cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, bydd yr wybodaeth am yr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei rhannu â'r holl bartneriaid perthnasol. Gallai hyn arwain at gymryd camau gweithredu yn ei erbyn.

Gallai ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus arwain at dynnu yn ôl y caniatâd i gadw ci neu hyd yn oed adfeddiannu'r eiddo.

Contractau Ymddygiad Derbyniol

Os bydd adroddiadau eraill yn dod i law o fewn 6 mis i'r llythyr rhybudd olaf, bydd perchennog y ci yn cael ei gyfeirio'n awtomatig at Grŵp Ymyrraeth 'Strike 3'. Mae'r grŵp hwn wedi'i gynrychioli gan yr holl asiantaethau partner allweddol sy'n delio ag achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus.

Mae'r grŵp craidd yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol: yr Heddlu, Landlordiaid Cymunedol, Diogelwch Cymunedol, Addysg, Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid, Gwasanaeth Ieuenctid a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Yn y cyfarfod hwn, bydd eich achos a'r digwyddiadau sy'n ymwneud â'ch ymddygiad yn cael eu trafod. Os bydd Cadeirydd y Grŵp Ymyrraeth ‘Strike 3’ o’r farn bod eich ymddygiad yn gyfystyr ag ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus, byddwch chi'n cael cynnig Contract Ymddygiad Derbyniol.

Mae Contract Ymddygiad Derbyniol yn gytundeb gwirfoddol rhwng Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerffili Saffach a'r unigolyn. Os yw'n cael ei wrthod, bydd y Tîm Plismona Bro yn monitro ymddygiad y ci am 6 mis.

Gorfodi

Os bydd adroddiadau eraill yn dod i law o fewn 6 mis, bydd perchennog y ci yn cael ei gyfeirio at y Grŵp 'Strike 4'. Mae pawb sy’n mynd i gyfarfod Grŵp ‘Strike 3’ yn mynd i’r cyfarfod hwn, yn ogystal â Gwasanaethau Cyfreithiol. Yn y cyfarfod hwn, bydd eich achos yn cael ei adolygu. Os yw'n cael ei ystyried yn briodol, bydd eich achos yn cael ei gyfeirio ar gyfer camau gorfodi.

Gallai camau o’r fath gynnwys Gorchymyn Dinistrio Amodol yn dilyn euogfarn o dan y Ddeddf Cŵn Peryglus neu Orchymyn Rheoli, Deddf Cŵn 1871 neu amrywiaeth o fesurau gorfodi sydd wedi’u cynnwys yn y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014:

  • Rhybudd/Hysbysiad Gwarchod y Gymuned
  • Gwaharddeb Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  • Gorchymyn cau - Gorchymyn Ymddygiad Troseddol 
  • *Sylwer bod modd ceisio’r mesurau uchod ar unrhyw adeg yn ystod y broses*

Rhoi gwybod am ymosod gan gi

Ffoniwch 999 bob amser os yw bywyd rhywun mewn perygl.

Ymosod gan gi yw unrhyw ddigwyddiad lle mae ci yn rhuthro i berson neu anifail, eu brathu, yn ymosod arnyn nhw, yn aflonyddu arnyn nhw neu’n rhedeg ar eu hôl nhw, hyd yn oed heb achosi anaf.

Mae'n drosedd i berson sy’n gyfrifol am gi ganiatáu iddo fod allan o reolaeth yn beryglus mewn man cyhoeddus.

Ffoniwch Heddlu Gwent ar 101, neu anfon neges drwy Facebook neu Twitter am fridiau anghyfreithlon, ymladd cŵn wedi'u trefnu, cŵn peryglus neu ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda chŵn.

Ffoniwch eich landlord am gŵn niwsans neu ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda chŵn yn eich llety â thenant neu lesddaliad. (Mae hyn yn cynnwys pob landlord cymunedol a deiliad cyswllt)

Ffoniwch yr RSPCA ar 0300 12 34 neu iechyd a lles cŵn.

LEAD Llyfryn

Partneriaid

Mae'r fenter yn cael cymorth gan yr holl Bartneriaid Diogelwch Cymunedol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r Heddlu, yr Awdurdod Lleol, Landlordiaid Cymunedol, y Bwrdd Iechyd, y Gwasanaeth Tân a'r Trydydd Sector. Maen nhw i gyd yn cydweithio'n agos i gynorthwyo a hyrwyddo gwaith LEAD.