FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00am a 8:00am ar y 05 Mai 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00am and 8:00am on the 05 May 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Mwg ac arogl o fusnesau 

Mae rhyddhau mwg tywyll neu ddu o safle masnachol, masnach a diwydiannol yn drosedd. Mae mwg o ffliwiau, cyrn neu simneiau yn cael ei reoli gan ddeddfwriaeth (yn cynnwys Deddf Aer Glân 1993 a Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990).

Mae gan safleoedd masnachol ddyletswydd hefyd i gael gwared â’u gwastraff mewn dull priodol. Os byddwch yn llosgi unrhyw fath o wastraff ar safle masnachol, masnach neu ddiwydiannol, gallech fod yn cyflawni trosedd a gallai Asiantaeth yr Amgylchedd gymryd camau yn eich erbyn.

Os ydych yn dymuno cwyno am losgi ar safle masnachol, ewch i’n gwybod i ni am niwsans iechyd y cyhoedd.