FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00am a 8:00am ar y 05 Mai 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00am and 8:00am on the 05 May 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Gostyngiad band anabledd

Gallai eich bil gael ei ostwng os oes gan eich cartref nodweddion penodol sy’n hanfodol neu o bwysigrwydd mawr i les person ag anabledd, (p'un ai'n oedolyn neu'n blentyn), sy'n byw yn yr annedd.

Pwy all wneud cais?

Rhaid i’ch cartref gael o leiaf un o’r nodweddion isod, a rhaid iddo fod yn hanfodol neu o bwysigrwydd mawr i les y person anabl:

  • ystafell ymolchi neu gegin ychwanegol i ddiwallu anghenion y person anabl

  • Ystafell ychwanegol heb fod yn ystafell ymolchi, cegin neu dŷ bach, a ddefnyddir yn bennaf gan y person anabl ac sydd ei hangen i ddiwallu ei anghenion ychwanegol

  • Digon o le y tu mewn i'r person ddefnyddio cadair olwyn, rhaid bod angen y gadair olwyn i fyw o ddydd i ddydd, a hynny y tu mewn.

Rhaid i’r ystafell neu le ychwanegol ar gyfer cadair olwyn fod yn hanfodol, neu o bwysigrwydd mawr i les y person anabl. Mae hyn yn golygu y byddai’r person anabl, heb yr ystafell neu'r lle hwn:

  • Yn ei chael hi’n amhosibl neu’n anodd iawn byw yn yr annedd

  • Byddai ei iechyd yn dioddef

  • Byddai’r anabledd yn debygol o fynd yn fwy difrifol.

Os ydych yn meddwl eich bod yn gymwys, bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen gais ganlynol.

Ffurflen gais ar-lein gostyngiad person anabl (PDF 126kb)

Faint yw’r gostyngiad?

Mae eich cartref yn gymwys, bydd eich bil yn cael ei ostwng i’r un band ag eiddo yn y band prisio un lefel dan y band a nodir ar y rhestr brisio Er enghraifft, os yw eich cartref ym mand D, caiff eich bil ei ostwng i’r un lefel ag annedd band C Nid yw hyn yn effeithio ar werth eich cartref na’i safle ar y rhestr brisio.