Gwybodaeth Esboniadol

Bandiau prisio treth y cyngor

Mae'r mwyafrif o anheddau yn destun i Dreth y Cyngor. Mae un bil i bob annedd. Dyrennir pob annedd i un o naw band yn ôl ei gwerth cyfalaf y farchnad agored ar 1 Ebrill 2003:

Band Prisio ac Amrediad Gwerthoedd

  • A Dim mwy na £44,000
  • B Dros £44,000 ond dim mwy na £65,000
  • C Dros £65,000 ond dim mwy na £91,000
  • D Dros £91,000 ond dim mwy na £123,000
  • E Dros £123,000 ond dim mwy na £162,000
  • F Dros £162,000 ond dim mwy na £223,000
  • G Dros £223,000 ond dim mwy na £324,000
  • H Dros £324,000 ond dim mwy na £424,000
  • I Dros £424,000

Anheddau wedi eu heithrio: Mae’r dosbarthiadau eithrio isod, 

  • A Wedi ei drwsio/newid yn strwythurol, neb yn byw ynddo a heb ddodrefn ar y cyfan (wedi ei eithrio hyd at 12 mis)
  • B Neb yn byw yno ers llai na 6 mis, yn perthyn i elusen a’r defnydd olaf er pwrpasau elusennol
  • C Neb yn byw yno a heb ddodrefn, felly wedi ei eithrio hyd at 6 mis o ddyddiad gadawyd yr eiddo
  • D Gadawyd yn wag gan berson(au) wedi ei/eu cadw mewn carchar
  • E Gadawyd yn wag gan berson(au) mewn ysbyty neu gartref nyrsio/gofal
  • F Neb yn byw yno oherwydd marwolaeth y preswylydd/ preswylyddion (wedi ei eithrio hyd at 6 mis ar ôl Profiant neu Lythyrau Gweinyddu). Mae’r eithriad ond yn gymwys os yr ymadawedig oedd rhydd-ddeiliad/lles-ddeiliad yr eiddo
  • G Gwaherddir byw ynddynt gan y gyfraith
  • H Neb yn byw yno ond wedi ei gadw ar gyfer gweinidog yr efengyl
  • I Gadawyd yn wag gan berson(au) sy’n derbyn gofal mewn lle arall (heblaw mewn ysbyty neu gartref nyrsio/gofal)
  • J Gadawyd yn wag gan berson(au) sy’n byw rhywle arall er pwrpasau darparu gofal ar gyfer person arall
  • K Neb yn byw yno gyda myfyriwr yn berchennog a myfyriwr oedd y preswylydd diwethaf
  • L Neb yn byw yno a’r morgeisedig mewn meddiant o dan y morgais
  • M Neuadd breswyl yn bennaf ar gyfer llety myfyrwyr
  • N Myfyriwr/myfyrwyr yn unig yn byw yno
  • O Eiddo’r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn a gedwir ar gyfer lletya’r lluoedd arfog
  • P Aelodau o’r lluoedd tramor yn byw ynddynt
  • Q Neb yn byw yno, ac wedi ei gadw gan yr ymddiriedolwr/ wyr mewn methdaliad
  • R Eiddo sy’n cynnwys safle ar gyfer carafán neu angorfa ar gyfer cwch nad sydd â charafán neu gwch yno
  • S Dim ond person(au) o dan 18 mlwydd oed yn byw yn yr annedd
  • T Rhandy heb neb yn byw yno sy’n anodd ei gosod ar wahân
  • U Annedd a feddiannir dim ond gan berson neu bersonau sydd â nam meddyliol difrifol
  • V Eiddo dan feddiannaeth rhai diplomyddion
  • W Rhandy neu lety tebyg a breswylir gan berthynas dibynnol
  • X Dim ond ymadawyr gofal o dan 25 oed sy'n byw yno 

Os ydych yn credu bod eich eiddo yn eithriedig, dylech gysylltu ag Isadran Treth y Cyngor.

Disgowntiau

Os taw dim ond un oedolyn sy’n byw yn yr eiddo, mae disgownt o 25 y cant. Nid yw’r bobl yn y grwpiau canlynol yn cyfrif tuag at y nifer o oedolion sy’n byw mewn annedd:

  • Myfyrwyr llawn amser, myfyrwyr nyrsio, prentisiaid a hyfforddedigion hyfforddiant ieuenctid, a chynorthwywyr ieithoedd tramor
  • Cleifion sy’n byw mewn ysbyty - Pobl y gofelir amdanynt mewn cartrefi gofal
  • Pobl â nam meddyliol difrifol
  • Pobl sydd yn aros mewn rhai hosteli neu lochesau nos
  • Pobl 18/19 oed sydd yn yr ysgol, neu newydd adael ysgol (mae hyn yn gymwys hyd y 1af Tachwedd nesaf)
  • Gweithwyr gofal sy’n gweithio am gyflog isel, fel arfer i elusennau
  • Pobl sy’n gofalu am rywun ag anabledd nad yw’n briod, yn bartner neu’n blentyn o dan 18 mlwydd oed
  • Aelodau o luoedd ar ymweliad a rhai sefydliadau rhyngwladol
  • Aelodau o gymunedau crefyddol (mynachod a lleianod)
  • Pobl mewn carchar (heblaw’r rhai sydd yno am beidio talu Treth y Cyngor neu ddirwy)
  • Ymadawyr Gofal 0 dan 25 oed
  • Pobl sy'n aros gyda noddwr yn y DU o dan y Cynllun Cartrefi i'r Wcráin 

Efallai y bydd personél y lluoedd arfog sy'n berchen ar ail gartref yng Nghymru (sy'n wag ar hyn o bryd) ond mae'n ofynnol iddyn nhw fyw mewn llety a ddarperir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a thalu treth y cyngor amdano er mwyn cyflawni'u dyletswyddau'n well, yn gymwys i gael gostyngiad o 50% ar dreth y cyngor sy'n daladwy ar yr ail gartref hwnnw. Os ydych chi'n credu efallai y byddwch chi'n gymwys i ostyngiad, dylech chi gysylltu ag Is-adran Treth y Cyngor

Datganiad ar ddisgowntiau 

Os caniatawyd disgownt, mae hyn yn cael ei nodi ar y bil. Os yw eich bil yn dynodi y dyfarnwyd disgownt, yna rhaid i chi ddweud wrth y Cyngor am unrhyw newid mewn amgylchiadau sydd yn effeithio ar eich hawl i ddisgownt, neu faint y disgownt. Os methwch wneud hynny, gellir rhoi cosb o £50 i chi.

Pobl ag anableddau 

Os oes angen arnoch chi neu unrhyw un sy’n byw gyda chi, ystafell, neu ystafell ymolchi neu gegin ychwanegol, neu ragor o le yn eich eiddo i ddiwallu anghenion arbennig sy’n codi o anabledd, efallai fod gennych hawl i gael bil treth y cyngor llai. Gellir lleihau’r bil i’r band yn syth o dan y band a ddangosir yn y rhestr prisio. Mae’r gostyngiadau hyn yn sicrhau na fydd pobl anabl yn talu mwy o dreth oherwydd y lle sydd angen oherwydd anabledd. Cysylltwch ag Isadran Treth y Cyngor am fanylion pellach. 

Gostyngiadau treth y cyngor

Mae’r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor yn helpu pobl ar incwm isel i dalu eu biliau treth y cyngor. Os nad ydych yn derbyn gostyngiad ar hyn o bryd ond yn meddwl efallai eich bod yn gymwys, gallwch wneud hynny trwy lenwi ffurflen gais ar-lein trwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol ar ein gwefan www.caerffili.gov.uk/hawliobudd-dal. Os oes angen help neu gymorth arnoch neu os oes angen ffurflen ar bapur cysylltwch ag un o’n hymgynghorwyr ar 01443 864099 neu budd-daliadau@caerffili.gov.uk  

Noder, gall unrhyw oedi wrth wneud cais am gostyngiad treth y cyngor arwain at golli’r hawl

Eiddo sy’n wag ac eiddo sydd heb fawr o ddodrefn

Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2004 yn caniatáu i awdurdodau lleol leihau neu gael gwared ar y disgownt 50% treth y cyngor am anheddau trethadwy sydd yn wag a heb fawr o ddodrefn h.y. cartrefi gwag hirdymor. Penderfynodd y Cyngor i roi terfyn ar y disgownt 50% o’r 1af Ebrill 2005.

Eiddo gwag sydd â dodrefn  

Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998 yn caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru leihau neu gael gwared ar ddisgownt o 50% ar gyfer yr annedd nad yw’n unig breswylfa neu brif breswylfa unigolyn ac sydd â dodrefn. Penderfynodd y Cyngor i roi terfyn ar y disgownt o 50% o 1af Ebrill 1998.

Premiymau treth y cyngor 

Ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ni fydd y Cyngor yn codi premiwm ar dai gwag hirdymor neu gartrefi wedi’u dodrefnu sy’n cael eu meddiannu o dro i dro.

Rhybudd pwysig iawn - parthed: taliad hwyr

Os na dderbynnir taliad erbyn y dyddiadau dyledus sydd wedi'u dangos ar eich Hysbysiad Galw am Dalu Treth y Cyngor, cychwynnir ar gamau adfer. Dylai unrhyw drethdalwr y cyngor sydd ag anawsterau wrth dalu ei fil gysylltu ag Is-adran Treth y Cyngor ar unwaith am gyngor. Hefyd, gallwch chi ymweld â www.caerffili.gov.uk a chwilio am 'Dyledion a chyllidebu' am fanylion cyswllt sefydliadau eraill sy'n cynnig cyngor am ddim.

Debyd uniongyrchol  

Y dull cyflymaf a hawsaf I sefydlu'ch debyd uniongyrchol yw ar-lein. Drwy wneud hyn, rydych chi'n ein helpu ni I flaenoriaethu ein hymdrechion i greu gwasanaethau gwell i’n trigolion. Ymwelwch caerffili.gov.uk/Debyd UniongyrcholTC i sefydlu eich taliadau heddiw

Taliad drwy 12 rhandaliad misol 

Gallwch chi dalu eich bil treth y cyngor blynyddol dros 12 rhandaliad. I wneud cais, e-bostiwch trethycyngor@caerffili.gov.uk neu ysgrifennu at Is-adran Treth y Cyngor gyda'r cyfeiriad ar ben y ffurflen hon. Cofiwch ddatgan cyfeirnod eich cyfrif treth y cyngor

Ffyrdd eraill i dalu eich treth y cyngor

Yn ychwanegol at y Cynllun Rhandaliadau Statudol a ddangosir ar eich bil, gellir talu Treth y Cyngor fel un taliad erbyn 30 Ebrill neu mewn dau randaliad, hanner erbyn 30 Ebrill a hanner erbyn 31 Hydref bob blwyddyn. Os ydych am dalu drwy un o’r dulliau hyn, rhaid i chi gysylltu â’r Isadran Treth y Cyngor er mwyn gwneud y trefniadau angenrheidiol. Bydd methiant i dalu’r hanner cyntaf erbyn 30 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn, yn golygu bod y balans llawn yn daladwy.

Am ragor o ddulliau talu, gweler cefn eich bil treth y cyngo

Apeliadau

Mae’r rhesymau dros apelio ynghylch bandio yn cael eu cyfyngu i’r achosion canlynol:

  • 1. Lle’r ydych yn credu y dylai’r band gael ei newid oherwydd bu cynnydd neu ostyngiad sylweddol (caiff hyn ei esbonio isod) yng ngwerth yr annedd;
  • 2. Lle byddwch yn dechrau neu’n gorffen defnyddio rhan o’ch annedd i gynnal busnes, neu fod y cydbwysedd rhwng defnydd domestig a busnes yn newid;
  • 3. Pan fydd y Swyddog Rhestru wedi newid rhestr heb fod cynigiad wedi’i wneud gan drethdalwr;
  • 4. Lle byddwch yn dod yn drethdalwr mewn perthynas ag annedd am y tro cyntaf.

Gall cynnydd sylweddol mewn gwerth ddeillio o adeiladu, peirianneg neu waith arall yn cael ei gyflawni ar annedd. Yn yr achosion hyn nid yw ailbrisio yn digwydd tan ar ôl gwerthu - felly felarfer y person sy’n apelio fydd y perchennog neu breswylydd newydd. 

Gall gostyngiad sylweddol mewn gwerth fod o ganlyniad i ddymchwel unrhyw ran o’r annedd neu unrhyw newid i gyflwr ffisegol yr ardal leol.

Gellir cael manylion pellach o’r gweithdrefnau apelio oddi wrth y Swyddog Rhestru, Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA):  Rhif Ffôn: 03000 505505, Contact VOA - GOV.UK (www.gov.uk). Gellir cael manylion pellach o’r gweithdrefnau apelio (gan gynnwys rôl y tribiwnlysoedd prisio) o www.gov.uk/challenge-council-tax-band www.gov.uk/challenge-council-tax-band

Gallwch hefyd apelio os ydych o’r farn nad ydych yn agored i dalu treth y cyngor, oherwydd nad chi yw’r preswylydd neu’r perchennog, neu oherwydd bod eich eiddo wedi’i eithrio, neu fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gwneud camgymeriad wrth gyfrifo eich bil. Os ydych yn dymuno apelio ar y seiliau hyn rhaid i chi hysbysu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gyntaf yn ysgrifenedig er mwyn iddynt gael cyfle i ailystyried yr achos. Nid yw gwneud apêl yn caniatáu i chi wrthod talu treth sy’n ddyledus yn y cyfamser. Os bydd eich apêl yn llwyddiannus, bydd gennych hawl i gael ad-daliad o unrhyw dreth a ordalwyd. 

Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalen we Apeliadau bwrpasol.

Newid mewn amgylchiadau

Mae’n rhaid i chi hysbysu’r Cyngor yn ysgrifenedig o unrhyw newid yn eich amgylchiadau a allai effeithio ar faint o dreth y cyngor y mae’n rhaid i chi dalu. Gallwch ddweud wrthym am newid cyfeiriad ar-lein trwy fynd i www.caerffili.gov.uk a chwilio am ‘Newid cyfeiriad’. 

Pwerau dewisol

Mae gan y Cyngor bwerau dewisol i ymestyn y ddarpariaeth o ddisgownt mewn achosion unigol, neu i ddosbarthiadau o achosion a benderfynir yn lleol.

Crynodeb o’r hysbysiad preifatrwydd 

Sut y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth

Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei thrin yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol. Bydd yn cael ei defnyddio gan weithwyr awdurdodedig a chyrff allanol ar gyfer y dibenion canlynol: Rheoli, gweinyddu a chasglu Treth y Cyngor; sefydlu cymhwyster ar gyfer ffurfiau eraill o ryddhad a lwfansau statudol; atal a chanfod twyll er mwyn diogelu arian cyhoeddus; at ddibenion Etholiadol; i ddod o hyd i unigolion ar gyfer diogelu plant neu achosion o oedolion bregus; i ddod o hyd i unigolion mewn perthynas â materion gorfodi awdurdodau lleol a chynorthwyo i adennill arian dyledus i’r Cyngor a chynorthwyo’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae gennych nifer o hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth, gan gynnwys yr hawl i gael gafael ar wybodaeth sydd gennym amdanoch chi a’r hawl i gwyno os ydych chi’n anhapus â’r ffordd y mae eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu.

Am ragor o wybodaeth am eich hawliau a sut rydym yn prosesu’ch gwybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: https://www.caerffili.gov.uk/HysbysiadPreifatrwyddTrethyCyngor.aspx

Mae’r ardal Derbynfa yn gwbl hygyrch, ac yn gweithredu Dolen Sain ac wedi tanysgrifio i’r System RNID Typetalk er budd y rhai sydd â nam lleferydd neu nam ar eu clyw. Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn Gymraeg, Saesneg neu mewn unrhyw iaith neu fformat arall

Mae’r atodiad hwn yn ffurfio rhan o’r gofyniad statudol