Ffioedd tystysgrifau
Isod ceir y ffioedd a'r taliadau o 16 Chwefror 2019.
Mae'r taliadau'n amrywio yn dibynnu a oes angen 'gwasanaeth safonol' neu 'wasanaeth blaenoriaeth'.
Ar gyfer ceisiadau pasbort ar gyfer pobl cawsant eu geni ar neu ar ôl 1 Ionawr 1983, mae angen tystysgrif geni llawn.
Gwasanaeth safonol
Ffi £11.00
Yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi tystysgrif:
- I'r cwsmer yn bersonol ar ddiwrnod cofrestru genedigaeth, marwolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil, neu
- I'w bostio i'r cwsmer, drwy bost 2il ddosbarth, neu ei gasglu rhwng 10.00 a 15.00, erbyn 15 diwrnod gwaith ar ôl gwneud cais a thaliad. Fe fydd ffi weinyddol ychwanegol o £2 yn daladwy os bydd y cwsmer angen i dystysgrif gael ei bostio gan ddefnyddio post cofrestredig/wedi'i lofnodi.
Gwasanaeth blaenoriaeth
Ffi £35.00
Yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi tystysgrif:
- I'r cwsmer yn bersonol cyn y diwrnod gwaith nesaf, neu
- I'w bostio i'r cwsmer, drwy bost dosbarth 1af cyn y diwrnod gwaith nesaf. Ceisiadau a thaliadau i'w gwneud rhwng 09.00 a 15.00. Bydd ceisiadau ar ôl 15.00 yn cael eu trin fel rhai sy'n cael eu gwneud ar y diwrnod gwaith nesaf ond yn dal i godi ffi'r flaenoriaeth. Fe fydd ffi weinyddol ychwanegol o £2 yn daladwy os bydd y cwsmer angen i dystysgrif gael ei bostio gan ddefnyddio post cofrestredig/wedi'i lofnodi
Ffioedd chwilio ychwanegol
- Chwiliad blwyddyn naill ochr i ddyddiad penodol - Ni chodir tâl
- Chwiliad pum mlynedd (blynyddoedd penodol wedi eu rhoi) £5
- Chwiliad deg mlynedd (blynyddoedd penodol wedi eu rhoi) £18
- Dim ond un chwiliad pum mlynedd fydd yn cael ei ganiatáu ar enw a dyddiadau a rhoddwyd