News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn lansio Cymhelliad Tocyn Rhodd gwerth £100 ar gyfer yr Ysgol a Chlwb Chwaraeon sy'n Cymryd Rhan Fwyaf yn 2k Caerffili.

Postiwyd ar : 16 Ebr 2024

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn lansio Cymhelliad Tocyn Rhodd gwerth £100 ar gyfer yr Ysgol a Chlwb Chwaraeon sy'n Cymryd Rhan Fwyaf yn 2k Caerffili.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffiil yn falch o gyhoeddi menter gyffrous sydd â'r nod o gynyddu cyfranogiad yn rasys 2k a 10k Caerffili sydd ar y gweill. Mewn cydweithrediad â busnesau lleol, bydd Chwaraeon Caerffili yn rhoi tocyn rhodd gwerth £100 i'r ysgol a'r clwb chwaraeon sydd â'r nifer uchaf o gystadleuwyr yn nigwyddiad 2k Caerffili. Gall y tocyn hwn gael ei ddefnyddio i brynu offer a darparu cymorth i wella eu gweithgareddau ymhellach. 
 
Mae'r cymhelliad hwn, sy'n cael ei gefnogi gan y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, yn tanlinellu ymrwymiad parhaus y Cyngor i hyrwyddo ffyrdd o fyw egnïol ac ymgysylltu cymunedol drwy ei Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili. 
 
Pwysleisiodd y Cynghorydd Chris Morgan, "Rydyn ni wrth ein boddau o gyflwyno'r cymhelliad cyffrous hwn i annog mwy o bobl i gymryd rhan yn nigwyddiad 2k Caerffili. Drwy gymell ysgolion a chlybiau chwaraeon, ein nod yw creu ysbryd o gystadleuaeth iach ac ysbrydoli unigolion o bob oed i groesawu gweithgarwch corfforol fel rhan o'u trefn ddyddiol."
 
Mae digwyddiad 2k Caerffili, sydd wedi'i drefnu ar gyfer dydd Sul 12 Mai, yn cynnig y cyfle i brofi harddwch Caerffili wrth gymryd rhan mewn digwyddiad rhedeg gwefreiddiol sy'n addas ar gyfer pob lefel ffitrwydd.
 
I fod yn gymwys ar gyfer y tocyn rhodd gwerth £100, mae ysgolion a chlybiau chwaraeon yn cael eu hannog i gysylltu â thîm 10k Caerffili i gael cod a fydd yn hwyluso olrhain cofrestriadau o'u sefydliad. Rhaid i ymgeiswyr nodi'r ysgol neu'r clwb chwaraeon y maen nhw'n ei gynrychioli yn ystod y cyfnod cofrestru i sicrhau bod eu cyfranogiad nhw'n cyfrif tuag at gyfanswm nifer y cofrestriadau ar gyfer eu sefydliadau priodol. Bydd yr ysgol a'r clwb chwaraeon buddugol yn cael eu pennu ar sail cyfanswm y cyfranogwyr cofrestredig o bob sefydliad. 
 
Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn i gefnogi'ch ysgol neu glwb chwaraeon wrth gymryd rhan mewn digwyddiad cymunedol sy'n dathlu iechyd a lles. Cofrestrwch heddiw ar gyfer 2k Caerffili ac ymuno â ni wrth wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymuned leol. 

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer digwyddiad 2k Caerffili, ewch i https://www.caerphilly10k.co.uk neu gysylltu â ni ar 10k@caerffili.gov.uk.


Ymholiadau'r Cyfryngau