Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio
Mae Llywodraeth Cymru wedi adnabod cyfres o ddangosyddion monitro perfformiad ar gyfer gwasanaethau cynllunio Awdurdod Cynllunio Lleol yng Nghymru. Cafodd y rhain eu datblygu mewn cydweithrediad â’r canlynol:
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru;
- Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru; ac
- Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru.
Defnyddir y dangosyddion i ddangos pa mor dda y mae awdurdodau yn perfformio, yn unigol ac yng nghyswllt cyd-destun Cymru gyfan.
Mae’n rhaid i bob Awdurdod baratoi Adroddiad Blynyddol, erbyn canol mis Hydref bob blwyddyn, ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol. Dechreuodd y rhain gyda’r Adroddiad ar gyfer 2014-15.
Mae’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio ar gael isod ac yn adrodd ar berfformiad ar draws ystod o feysydd y gwasanaeth cynllunio. Mae yna hefyd ddolen i’r Adroddiad Monitro Cynllun Datblygu Lleol Blynyddol, sy’n ffurfio atodiad i’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio.
Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio 2014-15 (PDF)
Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)