Pentref Gerddi'r Siartwyr

  • Rhif: -
  • Heol/Heolydd: Orchid grove, Chartist Rise
  • Tref: Pentref Gerddi'r Siartwyr, Pontllan-fraith
  • Cod post: NP12 2RR

Manylion yr eiddo dan sylw

Landlord/Landlordiaid - Pobl
Nifer / Ystafelloedd gwely / Math/Mathau - Safle deiliadaeth gymysg:

  • 6 fflat ag un ystafell wely
  • 14 fflat â dwy ystafell wely
  • 8 tŷ â dwy ystafell wely
  • 4 tŷ â thair ystafell wely
  • 1 byngalo â thair ystafell wely
  • 1 tŷ â phedair ystafell wely

Bydd 14 o’r fflatiau mewn un bloc arddull elusendy ar gyfer pobl dros 55 oed. Mae bloc yr elusendy wedi’i ddylunio a'i bwrpasu ar gyfer gosod i bobl dros 55 oed. Mae hyn oherwydd y mynediad gwastad, y gerddi a rennir, a’r lleoliad o amgylch y gofeb ryfel restredig. Mae gan 18 o'r fflatiau fynediad gwastad a byddan nhw'n gategori B1 ac yn cynnwys ystafelloedd gwlyb. Mae gan 4 fflat risiau rhwydd, ac mae gan y fflatiau hyn waelodion cawod a byddan nhw'n cael cod D

Bydd yr holl dai ar y safle hwn hefyd yn rhai â mynediad gwastad ac yn cael eu codio fel B1.

Rheswm dros wneud cais am bolisi gosod tai lleol

Mae Pobl am lunio polisi gosod tai lleol ar gyfer pob eiddo sy'n cael ei osod yn rhan o'r datblygiad a fydd yn ein galluogi ni i greu cymuned gytbwys a chynaliadwy ac, felly, yn cynnig bod cymysgedd o ymgeiswyr ag anghenion a blaenoriaethau llai niferus yn cael eu hystyried.

Gallai dyrannu ar sail yr angen yn unig arwain at grynhoad uchel o bobl ag anghenion cymorth, a allai effeithio ar gydbwysedd/gytgord yr ystâd.

Bydd y safle yn cynnwys deiliadaeth gymysg; gan gynnwys rhanberchenogaeth, tai cymdeithasol, a gwerthiannau llwyr. Rydyn ni'n amcangyfrif fod pris rhai o'r eiddo perchentyaeth dros £450,000. Mae’n werth nodi hefyd y bydd rheolau cyfamodol llym ar y safle i gadw atyn nhw. Mae hyn yn bennaf oherwydd y system ddraenio sydd wedi’i gosod a bydd pwyslais ar gwsmeriaid i gynnal a chadw eu gerddi blaen a pheidio gwneud unrhyw newidiadau gan y byddai hyn yn gallu achosi llifogydd ac y gellir rhoi dirwy ar Pobl.

Crynodeb o'r sylfaen dystiolaeth i ategu'r polisi gosod tai lleol

Amcan y polisi gosod tai lleol

Sicrhau ein bod ni'n creu cymuned gytbwys. Atal unrhyw broblemau o ran rheoli tai rhag codi, a chynnal enw da fel landlord cymdeithasol.

Ein nod yw dyrannu eiddo i bobl na fydden nhw'n cynyddu trosedd nac yn gwaethygu Pobl a gwasanaethau eraill. Ein pryder ni yw, oherwydd y nifer sylweddol o ymgeiswyr gyda materion rheoli tenantiaeth a hanes posibl o droseddu a defnyddio cyffuriau, y gallai trosedd gynyddu'n sylweddol ym Mhontllan-fraith a chynyddu'r llwyth gwaith i wasanaethau sydd eisoes dan bwysau yn yr ardal.

Cyfyngiadau wrth osod tai

Ni fyddwn ni'n croesawu ymgeiswyr â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn ystod y 3 blynedd diwethaf.

Ni fyddwn ni'n croesawu ymgeiswyr sydd â geirda tenantiaeth gwael yn ystod y 3 blynedd diwethaf mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys os ydyn nhw wedi cael un neu ragor o'r canlynol: gwaharddeb, gorchymyn adennill meddiant, hysbysiad ceisio meddiant, hysbysiad israddio neu orchymyn israddio, hysbysiad o dan Adran 21 oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol, Gorchymyn Ymddygiad Troseddol, Hysbysiad Gwarchod y Gymuned, gorchymyn cau).

Mae angen i ymgeiswyr sydd wedi bod yn ddigartref gael geirda cadarnhaol gan y tîm cyngor ar dai mewn perthynas â'u hymddygiad mewn llety dros dro. Hefyd, byddwn ni'n ystyried ymgeiswyr digartref a all fod ag anghenion a thystiolaeth eu bod nhw'n gweithio'n agos gyda gwasanaethau cymorth, hynny yw yn symud ymlaen neu'n camu ymlaen.

Rhaid i ymgeiswyr o'r rhestr aros gyffredinol nad ydyn nhw'n gallu dangos hanes cadarnhaol o gynnal tenantiaeth ar ffurf geirda gan landlord gael naill ai:

  • Geirda cadarnhaol gan weithiwr cymorth proffesiynol perthnasol o ran ymddygiad cyffredinol; neu
  • Geirda gan weithiwr proffesiynol arall sy'n eu hadnabod nhw ar lefel bersonol.

Ni fydd unrhyw ymgeisydd sydd ag euogfarnau heb eu disbyddu am droseddau treisgar, lladrad/bwrgleriaeth a/neu droseddau cyffuriau yn cael ei ystyried.

Byddwn ni'n ffafrio'r ymgeiswyr hynny sydd mewn cyflogaeth/hyfforddiant/gwirfoddoli neu sydd â hanes gwaith gyda chap ar gyfer cyflogaeth. Rydyn ni'n cynnig 4 fflat ar gyfer anghenion cyffredinol, 4 fflat i bobl dros 55 oed ac 1 tŷ â dwy ystafell wely ac 1 tŷ â thair ystafell wely.

Bydd ffafriaeth hefyd yn cael ei ystyried ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau ar yr amod bod y math o eiddo yn addas i'w angen unigol. Bydd pob gwiriad yn cael ei gwblhau fesul achos.

Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i enwebiadau blaenorol a ddaeth i law ar gyfer datblygiad Red Lion, oherwydd yr amser mae ymgeiswyr wedi bod yn aros. Hyd yma, mae'r amser hynny'n fwy na 18 mis a bydden ni'n ceisio dyrannu ein chwe fflat ag un ystafell wely ar gyfer angen cyffredinol i'r ymgeiswyr hyn sydd eisoes wedi'u henwebu ar gyfer eiddo addas.

Manylion unrhyw ymgynghoriad cymunedol

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw feddianwyr eto gan nad yw'r safle yn gyflawn.

Crynodeb o'r asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb

Ni fyddwn ni'n gwahaniaethu yn erbyn darpar gwsmeriaid, gan ein bod ni, fel darparwr tai cymdeithasol, yn cydnabod ei bod yn hanfodol ein bod ni'n darparu mynediad cyfartal i dai ni waeth beth fo nodweddion gwarchodedig unigolyn.

Fodd bynnag, ein nod wrth roi’r polisi gosod tai lleol ar waith yw creu cymuned gytbwys a diogel, gyda chynaliadwyedd wrth galon ein hagenda.

Ar y sail honno, bydd pob ymgeisydd yn cael ei adolygu i asesu eu haddasrwydd yn unol â'r meini prawf sydd wedi'u hamlinellu uchod fesul achos, a bydd hyblygrwydd yn cael ei arfer. Bydd Pobl yn arfer eu disgresiwn ynghylch dyrannu, er mwyn sicrhau ein bod ni'n bodloni'r amcanion sydd wedi'u nodi.

Er na allwn ni atal problemau cymhleth rhag codi yn llwyr, rydyn ni'n bwriadu creu cydbwysedd iach ar draws y safle er mwyn peidio â chreu clystyrau o ardaloedd problemus neu ffurfio ardaloedd nad oes modd eu rheoli, a fyddai'n gallu arwain yn ei dro at denantiaethau aflwyddiannus, cynnydd mewn trosiant eiddo gwag a rhagor o geisiadau digartrefedd.

  • Dyddiad gweithredu: O'r trosglwyddiad cyntaf
  • Dyddiad terfynu: 12 mis o'r trosglwyddiad cyntaf
  • Amlder adolygu: 9 mis ar ôl gosod yr eiddo cyntaf
  • Trefniadau monitro ac adolygu: Adolygiad blynyddol

Swyddog sy'n gwneud y cais

  • Enw: Natasha Williams
  • Swydd: Rheolwr Tai Cymdogaeth
  • Sefydliad: POBL
  • Dyddiad: -

Penderfyniad y panel

  • Cymeradwyo/Gwrthod: -
  • Dyddiad: -
  • Manylion y penderfyniad: -