Pride Caerffili 2024

Pecyn Gwybodaeth yr Orymdaith 15 Mehefin 2024

Rydyn ni wedi cyffroi’n lân i’ch croesawu i nôl i Pride Caerffili yn dilyn diwrnod bendigedig y llynedd!

Unwaith eto, byddwn yn cychwyn gyda’n Gorymdaith Pride Caerffili o Ysgol Gyfun Martin Sant, Hillside, Caerffili, CF83 1UW

O’r fan honno, byddwn ni’n mynd lawr drwy ganol y dref ac yn gorymdeithio o amgylch y Twyn, heibio Bandstand Ieuenctid Pride Caerffili, a noddir gan Robert Price.

Bydd rhan olaf ein Gorymdaith yn mynd yn ôl i Faes Parcio’r Twyn, a fydd dan ei sang gyda bwyd, diod a stondinau gwybodaeth, yn barod i ni fwynhau diwrnod llawn hwyl gyda’n Llwyfan Adloniant Pride Caerffili, a noddir gan Unite Wales. 

Er y bydd aelodau o’r cyhoedd yn gallu dod ac ymuno yn yr Orymdaith ar y bore, rydyn ni’n dal i ofyn i chi gymryd 2 funud i roi gwybod i ni eich bod yn dod trwy lenwi’r ffurflen isod. Bydd hyn yn ein helpu i gael brasamcan o faint o bobl i’w ddisgwyl ac i sicrhau bod digon o stiwardiaid ar gael i’ch diogelu.

Mynychu'r digwyddiad

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach, mae croeso i chi anfon e-bost aton ni: cydraddoldeb@caerffili.gov.uk

Gobeithio eich bod chi’n edrych ymlaen at Pride Caerffili gymaint â ni! Cofiwch ymuno â'n tudalen digwyddiad Facebook a Instagram a defnyddio #PrideCaerffili i rannu eich postiadau gyda ni.

Cynllun Gorymdaith Pride Caerffili

  • Blaen - Samba Galêz 
  • CBSC a Gwesteion 
  • Prif Noddwr yr Orymdaith 
  • Noddwyr Pride Caerffili 
  • Cynghorau Balch 
  • Ysgolion 
  • Gwasanaeth Ieuenctid 
  • Perfformwyr 
  • Busnesau, Sefydliadau a Chymdeithasau 
  • Cefn - Aelodau’r Cyhoedd 

*Sylwch y gall hyn newid yn ddibynnol ar niferoedd. 

Dechrau’r Orymdaith

Gofynnwn i bawb geisio cyrraedd Ysgol Martin Sant erbyn 11:45 fan bellaf, er mwyn i ni gyd fod yn barod i adael yn brydlon am 12pm. Bydd gennym ni stiwardiaid a gwirfoddolwyr ar y safle i’ch helpu chi i fynd i’ch lle wrth i chi gyrraedd, ond gan nad ydyn ni’n gwybod pa mor brysur fydd yr orymdaith, rydyn ni’n eich cynghori chi i gyrraedd yn gynnar, felly bydd mynediad ar gael o 11am.

Bydd lluniaeth ysgafn ar werth yn yr ysgol wrth i chi aros, ynghyd â thoiledau, a byddwn ni hefyd yn sicrhau bod digon o gerddoriaeth i’ch paratoi chi ar gyfer hwyl yr Orymdaith! Cofiwch ddod â'ch fflagiau, eich baneri a'ch lliwiau llachar gyda chi i helpu i wneud y diwrnod mor wych a lliwgar â phosib!

Sylwch, ni fydd parcio ar y safle ar gyfer yr Orymdaith ac rydyn ni’n disgwyl i ganol y dref fod yn brysur, felly rydyn ni’n annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bo modd. 

  • 11:00am - Giatiau’r ysgol yn agor 
  • 11:45am - Pawb yn eu safleoedd yn barod i fynd
  • 12:00pm - Bant â ni! Gorymdeithiwn lawr drwy’r dref ar hyd lwybr yr orymdaith.
  • 1:00pm - 7:00pm - Adloniant ar y Brif Lwyfan a noddir gan Unite The Union
  • 1:00pm - 6:00pm - Adloniant ar y Bandstand a’r Ardal Ieuenctid a nodir gan Robert Price