Llythyr Hysbysiad Adroddiad Ymgynghori
Annwyl Ymgynghorai,
Yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018, rydym yn ysgrifennu i'ch hysbysu ynghylch cyhoeddi Adroddiad Ymgynghori mewn perthynas â chynnig Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.
Rydym yn cynnig gwneud y canlynol:
Adleoli Ysgol Y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf
Mae'r cynnig am geisio creu adeilad ysgol newydd Carbon Sero Net sy’n cynnwys cyfleusterau wedi'u rhannu ar gyfer Ysgol y Lawnt, Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf ac at ddefnydd y gymuned. Bydd y ddwy ysgol yn parhau i ddarparu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg ac yn parhau fel endidau ar wahân, wedi'u lleoli o fewn yr adeilad deuddiben newydd.
Ceir manylion llawn am y cynnig yn:
https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/ysgol-y-lawnt-ac-ysgol-gynradd-rhymni-uchaf
Mae'r Adroddiad Ymgynghori ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gellir hefyd gofyn am y wybodaeth mewn fformatau ac ieithoedd eraill, yn ogystal ag ar ffurf copi caled. Cysylltwch â ni ar 01443 864817 i drefnu hyn.
Cofion
Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili