ARGAELEDD GWEFAN / WEBSITE AVAILABILITY

ARGAELEDD GWEFAN : Sylwch, oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol, ni fydd y Wefan hon ar gael o bryd i'w gilydd rhwng 6:00pm a 6:15pm ar 8 Mai 2024.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.

WEBSITE AVAILABILITY : Please note that due to essential maintenance this Website will be intermittently unavailable between 6:00pm and 6:15pm on 8 May 2024.  We apologise for any inconvenience this may cause.

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yfed alcohol mewn man agored cyhoeddus. 

Teitl

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yfed alcohol mewn man agored cyhoeddus. 

Dyddiad agor

Dydd Gwener 23 Gorffennaf 2021

Dyddiad cau

Dydd Iau 2 Medi 2021

Trosolwg

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gwahodd pobl leol i ddweud eu dweud ar y cynnig i amrywio, ymestyn a chyflwyno Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yfed alcohol mewn man agored cyhoeddus ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. 

Pam rydym yn ymgynghori?

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sawl pŵer eisoes mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yfed alcohol mewn mannau agored cyhoeddus yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus wedi caniatáu i'r Cyngor gyflwyno amrywiaeth o gyfyngiadau i helpu rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau.
 
Mae'r Cyngor yn cynnig parhau i ddefnyddio'r pwerau hyn trwy:

  • ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus presennol am 3 blynedd arall,
  • amrywio rhai o'r ardaloedd presennol i gynnwys cyfyngiadau ychwanegol ar ymddygiad gwrthgymdeithasol,
  • cyflwyno sawl ardal newydd.

Dogfennau

Mae rhestr lawn o'r holl feysydd a gwmpesir gan y Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ynghlwm.

Ffyrdd o fynegi eich barn

Arolwg ar-lein (holiadur SNAP), arolwg drwy'r post ar gael ar gais.

Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau 

7 Medi 2021.

Canlyniadau disgwyliedig

Cefnogaeth ar gyfer y cynnig, sy'n hyrwyddo mynediad diogel i fannau agored cyhoeddus ledled y Fwrdeistref Sirol. 

Contact us
  • Email Address
  • Telephone
  • Address