Mae’r dudalen hon yn rhan o raglen dreigl o adrannau’r wefan sy’n cael eu cyfieithu i’r Gymraeg. Mae ein hadrannau mwyaf poblogaidd yn ddwyieithog yn barod ac rydym yn gweithio i gyfieithu’r gweddill cyn gynted â phosib. Yn y cyfamser, mae’r fersiwn Saesneg islaw er gwybodaeth. Ebostiwch cymraeg@caerffili.gov.uk am fwy o wybodaeth.

 ARGAELEDD GWEFAN / WEBSITE AVAILABILITY

ARGAELEDD GWEFAN : Sylwch, oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol, ni fydd y Wefan hon ar gael o bryd i'w gilydd rhwng 6:00pm a 6:15pm ar 8 Mai 2024.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.

WEBSITE AVAILABILITY : Please note that due to essential maintenance this Website will be intermittently unavailable between 6:00pm and 6:15pm on 8 May 2024.  We apologise for any inconvenience this may cause.

Ymgynghoriad ar yr adolygiad o Grantiau Adfywio CBSC

Cyflwynwyd adroddiad i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar 27 Chwefror 2019 ar yr adolygiad o Grantiau Adfywio CBSC. Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ymgynghori'n ehangach ar gynigion i gyfuno nifer o raglenni grant a redir gan y Cyngor yn Gronfa Fenter Caerffili sy'n canolbwyntio ar ddatblygu twf busnes a chreu cyfleoedd cyflogaeth. Y rhesymeg y tu ôl i gyfuno'r grantiau yn un gronfa yw cynnig gwell cymorth i gychwyn busnesau, ysgogi twf economaidd, llenwi gwagleoedd penodol yn y gadwyn gyflenwi a chefnogi creu swyddi.

Gweler y dogfennau perthnasol isod:

https://democracy.caerphilly.gov.uk/documents/s27844/Review%20of%20CCBC%20Regeneration%20Grants.pdf?LLL=0

Er mwyn ariannu'r rhaglen newydd, mae swyddogion yn cynnig dileu'r grantiau adfywio presennol, gan gynnwys y Gronfa Adfywio Cymunedol. Er y bydd y gyfundrefn grantiau ar agor i grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol, bydd angen iddynt ddangos tystiolaeth bod eu prosiectau'n canolbwyntio ar weithgarwch economaidd.

Bydd adroddiad pellach yn amlinellu canlyniadau'r broses ymgynghori yn cael ei gyflwyno maes o law i'r Cabinet.

hide

More Consultation on the review of CCBC Regeneration Grants

Related Pages

Elsewhere on the web