Anifeiliaid

Microsglodynnu

Rhaid i bob ci dros 8 wythnos oed a cheffylau dros 6 mis oed gael eu microsglodynnu.

Sglodyn cyfrifiadur bychan yw microsglodyn sydd â rhif unigryw sy’n cyfateb i fanylion eich anifail anwes chi sydd wedi’u cofrestru ar gronfa ddata awdurdodedig.

Mae manylion cyswllt y perchennog wedi'u cofnodi ar gronfa ddata ganolog, felly os bydd yr anifail anwes yn mynd ar goll neu'n cael ei ddwyn, gall yr awdurdodau ei sganio a'i ddychwelyd i'w berchennog yn gyflym ac yn ddiogel.

Mae'n bwysig cadw manylion microsglodyn eich anifail anwes chi wedi’u diweddaru. Os nad ydych chi, mae'r siawns y byddwch chi'n gweld eich anifail anwes eto os bydd yn mynd ar goll yn llawer is.

Rhagor o wybodaeth

Gweler y gwefannau isod am ragor o wybodaeth.

Rhesymau dros ysbaddu cŵn

Ymddygiad

Gall ysbaddu wella rhai ymddygiadau yn eich ci, er enghraifft, gadael olion arogl, chwilio am bartner, crwydro i ffwrdd o’r cartref, mowntio cŵn eraill.

Iechyd

Gall ysbaddu ddileu risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd, rhai canserau a heintiau angheuol.

Arian

Gall ysbaddu helpu i arbed arian drwy osgoi costau beichiogrwydd anfwriadol a magu cŵn bach. Fel sy’n cael ei drafod uchod, gall hefyd atal rhai afiechydon, gan leihau'r risg o filiau milfeddygol mawr yn y dyfodol.

Rhagor o wybodaeth

Mae'r gwefannau isod yn rhoi rhagor o fanylion am fanteision ysbaddu.

Perchnogaeth Gyfrifol o Anifeiliaid

Gwybodaeth lles hanfodol ar gyfer unigolion sy'n cadw anifeiliaid, gan gynnwys anifeiliaid anwes a da byw.

Cysylltwch â ni